大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Blewyn Glas
Un o frodorion La Gomera yn cyfathrebu drwy gyfrwng Silbo Atgyfodi Hen Iaith
Chwefror 2006
Ar ynys fechan La Gomera yn y 'Canaries' gwelwyd atgyfodiad o hen iaith a fu bron 芒 marw.

Dyma'r adeg o'r flwyddyn pryd bydd nifer o bobl gan gynnwys rhai o drigolion Bro Ddyfi yn dianc am wyliau yn yr haul. Mae rhai o'r ardaloedd mwyaf poblogaidd yma yn cynnwys Ynysoedd Canaria sydd i'r gorllewin o Affrica. Mae nifer o ynysoedd yn y Canaria megis La Palma, Fuereventura, Hirrero, Lanzarote, Gran Canaria a Tenerife ac yn agos i arfordir deheuol Tenerife mae'r ynys fechan a phrydferth, La Gomera.

Mae La Gomera, fel yr ynysoedd eraill wedi elwa yn economaidd yn dilyn twf a llwyddiant y diwydiant twristiaeth. Un o'r rhesymau am hynny yw fod Ynysoedd y Canaria yn mwynhau tywydd braf drwy'r flwyddyn ac mae'r diwydiant yn brysur o Ionawr tan Rhagfyr.

Erbyn hyn mae'r brodorion yn dychwelyd i'w cynefin yn hytrach nag ymfudo i edrych am waith fel y bu raid iddynt wneud yn ystod y ganrif ddiwethaf.

Golyga hefyd bod mwy o ymwybyddiaeth a phwyslais ar atyniadau naturiol, hanes a diwylliant. Ar ynys fechan La Gomera gwelwyd atgyfodiad, mewn dull diddorol iawn, o hen iaith a fu bron 芒 marw. Mae'r iaith Silbo yn unigryw gan mat iaith llafar chwibanu yw. Chwibanu'r iaith yn hytrach na'i siarad wna'r Silbadoriaid a gellir cynnal sgwrs dros bellter o rai milltiroedd - effeithiol a defnyddiol mewn ardaloedd anghysbell a mynyddig.

Mae'r iaith Silbo yn cynnwys pedair cytsain a phedair llafariad gyda geirfa o dros 4,000 o eirisu. Tarddiad y gair "Silbo" yw "Silbar" sef y ferf "chwibanu" yn y Sbaeneg. Credir mai ymsefydlwyr cynnar o Affrica ddaeth 芒'r iaith i La Gomerra a hynny dros ddwy fil a hanner o flynyddoedd yn 么l, ond llai na degawd yn 么l dim ond ychydig prin o hen bobl oedd yn medru'r iaith.

Daeth tro ar fyd ym 1999 pryd penderfynodd senedd La Gomera i orchymyn pob ysgol i ddysgu elfennau sylfaenol Silbo i bob disgybl dan 14 oed. Heddiw mae tua 3000 o blant yn cael gwersi o hanner am wythnos ac mae'r fenter yn llwyddiant. Efallai mai y rheswm am hynny yw fod swyddogion a gweinidogion addysg yn mynnu nad disgyblion i sefyll arholiad ond yn hytrach cynhelir cyfarfod cystadleuol rhwng holl ysgolion yr Ynys - hynny yw, Eisteddfod Flynyddol Silbo gyda'r plant buddugol yn ennill y wobr sef wythnos o wyliau yn Sbaen. Mae'r llwyddiant ymysg y bobl ifanc yn amlwg ac mae wedi creu hwb arall i atyniadau'r diwydiant twristiaeth ac i Adran Treftadaeth Hanesyddol llywodraeth Canaria.

Mae dwy gynhadledd ryngwladol eisioes wedi eu cynnal yn La Gomera sef Cynhadleddau Ieithoedd Chwibanu ac fe ddenwyd arbenigwyr led led y byd. Mae arwyddion o ieithoedd chwibanu tebyg i Silbo wedi eu darganfod mewn ardaloedd yng ngwledydd Groeg, Twrci, Mexico a Tseina ac mae astudiaeth arall yn edrych am arwyddion o'r iaith yn Cuba, Venezuela a Texas, ardaloedd lle bu yn draddodiad i bobl La Gomera ymfudo yn ystod cyfnodau o dlodi a chaledi economaidd.

Mae'r iaith Silbo yn seinio fel adar yn canu ond mae'n debyg nad oes gan hynny ddim byd i wneud ag enwau'r ynysoedd - Y Canaries!


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy