大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Blewyn Glas
Evan Jones Portread o Anghydffurfiwr
Medi 2004
Evan Jones Gweinidog enwog Moriah, Caernarfon, fu farw ar 29 Medi 1915, yn 79 oed yw'r gwron a bortreadwyd mor rhagorol gan y cyfaill Harri Parri, yn y gyfrol a gyhoeddwyd gan Wasg Pantycelyn.
G诺yr y cyfarwydd mai un o feibion disglair ardal Machynlleth oedd Evan, wedi'i eni yn Esgair-Goch, Pennal ar 27 Hydref 1836, a'i fagu yn y trydydd t欧 o chwech yng Nghraig-yr-henffordd ym mhlwy Penegoes ar gyrion Machynlleth. 'Un o Faldwyn ydoedd' medd Harri 'ond heb ormod o'r 'mwynder' a gysylltir 芒 meibion a merched y sir'.

Gellid dweud yr un peth am un o chwiorydd Evan, Marged a briododd 芒 Lewis Richards, brawd Mary (Penrhos-bach) fy hen nain. Dyna'r dystiolaeth a gefais gan frawd hynaf mam, Willie a fu'n w芒s gyda'r hen wreigan ym Mhen-y-geulan, Penegoes cyn ei marw yn 94 oed yn Ebrill 1924. Roedd Lewis ei phriod wedi marw yn Awst 1884 yn 47 oed a doedd dim plant gan y ddeuddyn.

Ond doedd pawb o'r tylwyth ddim fel Evan a Marged yn 么l y s么n. Ni wn hyd yma beth fu hanes Mary a Jane, ond ymfudodd John i Venedocia, Ohio, talaith yr oedd William Bebb, un 芒'i wreiddiau yn Narowen fel John, yn un o'i sylfaenwyr. Gellwch droi i lyfrau W. Ambrose Bebb, Y Baradwys Bell, a Gadael Tir, ac i gyfrol Robin Chapman ar Ambrose, i gael yr hanes difyr. Brawd arall i Evan Jones oedd Thomas (efaill i John o bosib), hen daid y chwiorydd Bet, Cwrt, Pennal; ac Ann, Machynlleth, a David Jervis hefyd o'r dre.

Bydd raid imi adael y clymau teuluol am y tro a dychwelyd atynt y tro nesaf, er mwyn manylu yn awr ar gyfrol Harri Paffi. Wedi s么n am ddatblygiad Anghydffurfiaeth dywed Harri: 'Etifedd a lladmerydd yr Anghydffurfiaeth newydd hon oedd Evan Jones a threuliodd ei holl fywyd yn dadlau o'i phlaid. Mewn dyddiau pan oedd cofiannau gweinidogion yn ddwsin am ddimai mae hi'n syndod na chafodd gweinidog o galibr ac o gyfraniad E.J. gofiant iddo'i hun.

Yn rhifyn Gorffennaf 1906 o'r cylchgrawn The Christian ac yntau'n ymddeol o fod yn Weinidog eglwys frigog Moriah, fe'i disgrifir fel 'pregethwr tanbaid'. 'He is a distinguished Welshman. One would be glad if Englind knew him better'.

Wel fe ddaeth yn fwy adnabyddus oherwydd ym 1909 ef oedd y Cymro cyntaf i fod yn Llywydd Undeb Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru a Lloegr.

'Roedd E. J. yn 'ddyn papur newydd' wrth grefft, a chryn inc yn ei waed', medd Harri a mynd rhagddo i s么n am ei gyfraniadau lluosog oddi ar ei brentisio gydag Adam Evans ym Machynlleth, ag yntau gyda Lewis Jones, sefydlydd Patagonia yn dechrau cyhoeddi Y Punch Cymraeg ym 1858, ac yn golygu sawl papur wedi iddo ymsefydlu yng Nghaernarfon ym 1875 cyn mynd i Foriah roedd wedi gweinidogaethu yng Nghorris, 1867-72, a Dyffryn Ardudwy 1872 - 75. Bu ym Moriah am 31 o flynyddoedd.

Sonnir yn 'Dyn Lloyd George' am ei waith gwleidyddol, manylir ar ei lafur mawr ym Moreia, a cheir penodau ar 'Bwldog' Yr Hen Gorff, a Y dyn Evan Jones, lle mae Harri yn ei bwyso a'i fesur yn deg a chytbwys.

Diolch i Harri am ei gymwynas yn dwyn ar gof gyfraniad goludog y g诺r o Graig-yr-henffordd.

Ewch i brynu'r gyfrol bumpunt ac ewch i fynwent Machynlleth at gofgolofn Evan Jones a'i deulu a diolchwch fel finnau am wasanaeth y gwron i Grist a Chymru.

W.J. Edwards


Cyfrannwch

Glynne Jones, Glaspwll, Machynleth
Dwi'n meddwl hefyd pan fu Evan Jones yn aelod o 'Gymdeithas lenyddol Machynlleth', ym 1854 mi enillodd y Wobr-Traethawd am lyfrun sef Darlundraeth o Fachynlleth a'i Hamgylchoedd; cyhoeddwyd gan Adam Evans Machynnleth yn 1855. Llyfrun bach o hanes diddorol iawn am rhai ffermydd ac ardaloedd ymm mhlwy Machynlleth. Ffugenw Evan Jones yn nheitl y Llyfrun yw Ieuan Dyfi.
Sat Mar 8 11:47:47 2008


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy