Y mae'r bws yn galluogi'r cyhoedd i gael mynediad hwylus i wasanaethau'r 大象传媒, megis gwefannau 大象传媒i a'r we. Bws unllawr ydyw sydd wedi'i addasu'n arbennig ar gyfer anghenion y cyhoedd, ac mae'n teithio ar draws y Sir gan sicrhau cyfle i drigolion lleol gyfrannu straeon a mynegi barn ar ei bwrdd. Bu'r Bws yn atyniad yng Ngwyl Geltaidd Celtica yn ystod Mehefin eleni, a dychwelodd i'r dref rhwng Hydref 22ain a 24ain. Yn ystod ei ymweliad manteisiodd disgyblion Ysgol Gynradd Machynlleth ar y cyfle i gael cipolwg ar y stiwdio ddarlledu; gwneud defnydd o'r cyfrifiaduron ar fwrdd y bws, yn ogystal 芒 throi eu llaw at waith camera a chyflwyno. Daeth nifer helaeth o bobl lleol ar fwrdd y bws, a braf oedd croesawu Maer y Dref, Mr Tecwyn Jones. Fydd y Bws yn ail ymweld 芒'r dref yn y dyfodol, a bydd croeso cynnes iawn i drigolion yr ardal droi i mewn atom. Am wybodaeth bellach ynglyn 芒 Bws 大象传媒 Cymru, neu os hoffech i'r stiwdio symudol ymweld 芒'ch pentref, cysylltwch ag Elin Wyn Rowlands ar 01970 833969 neu 07739 300223. www.bbc.co.uk/cymru/lleisiaulleol/safleoedd/stiwdio_canolbarth www.bbc.co.uk/wales/mid
|