大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Blewyn Glas
Nerys Davies, Aberhosan a'i gweinyddesau Masara Sandells a Carys Sellman o Ysgol Corris yn cyflwyno'r Aberthged. Cyhoeddi Eisteddfod Powys
Hydref 2003
Dathlwyd Cyhoeddi Eisteddfod Powys Bro'r Blewyn Glas ar benwythnos braf ar Hydref 11 a 12 a chafwyd cefnogaeth yr ardal a rhai o bell i'r gweithgareddau.

Roedd yr Orymdaith o Ganolfan y Tabernacl at gerrig yr Orsedd yn wledd i'r llygad gyda Seindorf Abergynolwyn yn arwain Swyddogion y Pwyllgorau, cynrychiolwyr Cyngor Tref Machynlleth a Chynghorau Cymuned Cadfarch, Carno, Corris, Glantwymyn, Llanbrynmair, Mawddwy a Phennal, baner yr Orsedd, disgyblion Ysgol Bro Ddyfi, cyflwynydd y Corn Hirlas a chyflwynydd yr Aberthged, ynghyd 芒'r Macwyaid a'r Gweinyddesau, yr wyth Gwladwr, Aelodau'r Orsedd, Meistresi'r Gwisgoedd, Cleddyf yr Orsedd a'r Derwydd Gweinyddol a'r Cofiadur.

Ail agorwyd yr Orsedd gan Talog, y Derwydd Gweinyddol, a chanwyd Gweddi'r Orsedd gan Ap Meirion. Yn ei gyfarchiad o'r Maenllog mynegodd y pwysigrwydd o ddysgu'r iaith Gymraeg i'n ieuenctid er mwyn sicrhau dyfodol yr iaith. Mae'r ffaith bod Unedau Cymraeg yn agor yn ein hysgolion yn gam mawr ymlaen i sicrhau bod ein ieuenctid yn derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg - wedi'r cwbl mae dyfodol ein hiaith yn nwylo'n ieuenctid. Talodd deyrnged i'r rhai ym Mhowys a oedd yn gweithio i sicrhau bod y Gymraeg yn derbyn lle cyfiawn yn yr ysgolion. Er bod dirywiad yn y nifer o gartrefi lle mae'r Gymraeg yn iaith gyntaf mae ar y llaw arall gynnydd yn y nifer o blant sydd yn siarad Cymraeg. Rhaid hefyd gwerthfawrogi cefnogaeth y rhieni di-Gymraeg. Cyfeiriodd hefyd at frwdfrydedd yr ardal i sicrhau llwyddiant Eisteddfod Powys Bro'r Blewyn Glas yn 2004.

Wedi i'r Wyth Gwladwr ganu Emyn yr Orsedd, canwyd y Cywydd Croeso (a oedd wedi ei ysgrifennu gan Tegwyn Jones, Dinas Mawddwy) gan barti Cerdd Dant Ysgol Bro Ddyfi. Hyfforddwyd y parti gan Llio Penri. Perfformiwyd y ddawns flodau yn urddasol gan ddisgyblion o ysgolion Machynlleth, Glantwymyn, Llanbrynmair, Carno a Phennal ac roeddent yn edrych yn hardd iawn yn eu gwisgoedd newydd. Mrs Ceris Rees, Llanbrynmair a oedd wedi hyfforddi'r plant a diolch hefyd i Co-op Machynlleth am noddi'r blodau.

Cyflwynwyd y Corn Hirlas gan Elen Jones, Dinas Mawddwy a'i Macwyaid, Iwan Evans a Huw Jones o Ysgol Dinas Mawddwy. Nerys Davies, Aberhosan a'i gweinyddesau Masara Sandells a Carys Sellman o Ysgol Corris oedd yn cyflwyno'r Aberthged.

Estynnodd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, y Cynghorydd Gwilym Fychan, groeso Bro'r Blewyn Glas i'r Eisteddfod. Eisteddfod Powys Bro'r Blewyn Glas 2004 fydd y pedwerydd i'w chynnal ym Machynlleth ers y cyntaf yn 1958. Cynhaliwyd Eisteddfod 1989 yng Nghanolfan y Tabernacl Machynlleth a dyna lle fydd cartref Eisteddfod Powys Bro'r Blewyn Glas yn 2004 lle cawn fanteisio ar yr holl adnoddau sydd gan y Ganolfan ardderchog yma i'w chynnig.

Sicrhaodd y bydd Eisteddfod 2004 yn un i'w chofio gan ei fod yn hyderus bydd y rhaglen yn denu cystadleuwyr o bell ac agos. Tref hynafol Machynlleth yw canolbwynt ardal Bro Ddyfi, yr ardal hyfryd hon lle mae'r De a'r Gogledd yn cwrdd ac mewn dyddiau a fu bu'n ganolbwynt Cymru gyfan. Dywedir bod pob ffordd yn arwain i Rufain a chyfeiriodd at hen enwau strydoedd Machynlleth, sef Heol Gwyr Deheubarth, Heol Gwyr Gwynedd a Heol Gwyr Powys, felly gallwn ninnau ddatgan bod pob ffordd yn arwain i Fachynlleth. Mynegodd hefyd ei falchder bod gan yr ardal hon ganran uchel o bobl sydd yn siarad Cymraeg.



Cyhoeddwyd Prif Destunau'r Eisteddfod gan y Cofiadur, Si芒n Elan, tynnodd sylw at Gystadleuaeth y Gadair a'r Goron, Medal y Dysgwyr, cyfansoddi T么n i emyn o waith Ann Fychan, cystadlaethau dawnsio sydd yn cynnwys dawnsio llinell a'r gwobrau hael sydd yn cael eu cynnig yn y gwahanol adrannau. Canmolodd hefyd amrywiaeth y testunau a chyfeiriodd at gystadlaethau yn yr Adran Celf a Chrefft a oedd yn ymwneud 芒 dathliad 600 mlwyddiant Senedd-dy Owain Glyndwr y flwyddyn nesaf.

Cafwyd anerchiad barddol gan Hedd Bleddyn cyn cau'r Orsedd a chanu Hen Wlad fy Nhadau.Parhaodd y dathlu gyda Chyngerdd Mawreddog yn y Tabernacl yn yr hwyr a braf oedd cael croesawu C么r Adlais o F么n o dan arweiniad Elen Keen. Mae'r C么r hwn yn adnabyddus ac yn enillwyr Cenedlaethol. Cafwyd rhaglen amrywiol ganddynt o ganeuon clasurol, caneuon gwerin a chaneuon cyfoes. Mr Trebor Lloyd Evans, Dolgellau oedd yr Unawdydd, ef hefyd yn enillydd Cenedlaethol, a mwynhawyd ei ddatganiadau o ganeuon o fyd yr opera a ffefrynnau ein cenedl. Cyflwynwyd yr eitemau gan Dilwyn Morgan yn ei ffordd unigryw. Braf oedd gweld cynulleidfa deilwng yn bresennol. Wrth ddiolch cyfeiriodd y Cynghorydd Gwilym Fychan at lwyddiant y Cyhoeddi a diolchodd yn arbennig i Mr Dennis Jones am drefnu'r Cyngerdd.

Daeth y dathlu i ben gyda Chymanfa Ganu yng Nghanolfan y Tabernacl ar y Nos Sul o dan arweiniad Dr Aled Lloyd Davies, Yr Wyddgrug a'r organydd Tudur P. Jones, Tywyn. Defnyddiwyd Caneuon Ffydd yn y Gymanfa a chafwyd canu gwefreiddiol o emynau cyfarwydd a chyfoes. Llywyddwyd y Gymanfa gan Gadeirydd y Pwyllgor Cerdd, Mr Tecwyn Jones. Cymerwyd y rhannau arweiniol gan Canon Emyr Rowlands a thraddodwyd y fendith gan y Parch W. J. Edwards. Roedd y tair eitem gan G么r Gore Glas o Hafan Gobaith, Ave Verum, ar Tangnefeddwyr yn dyst o gyfoeth lleisiaur C么r a dawn ei harweinydd Magwen Pughe.

Yn dilyn llwyddiant y penwythnos bydd y Pwyllgor Gwaith yn cyfarfod ym mis Tachwedd i ddechrau ar y gwaith o baratoi ar gyfer 2004. Hoffent ddiolch am gefnogaeth yr ardal i'r Wyl Gyhoeddi ac maent yn gobeithio y bydd yr un cefnogaeth yn 2004 pan gynhelir yr Eisteddfod yn y Tabernacl rhwng 8 - 10 Hydref. Mae'r Rhestr Testunau ar werth oddi wrth yr Ysgrifennydd Cyffredinol, Mrs Nerys Williams, Hafod y Grug, 6 Ffordd Mynydd Griffiths, Machynlleth, SY20 8DD - Pris y testunau yw 拢1 (+ pris cludiant 42c).

Roedd Pwyllgor Maes a Threfn wedi bod yn gweithio'n galed yr wythnosau cyn y Cyhoeddi i sicrhau bod y tir o gwmpas cerrig yr orsedd yn dderbyniol ar gyfer y Cyhoeddi.Wedi'r Cyhoeddi mwynhawyd y Te Croeso yn yr Ysgol Gynradd a ddarparwyd gan y Pwyllgor Llety a Chroeso.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy