Ar y 3 o Dachwedd 1956 cynhaliwyd Seremoni Agoriad Swyddogol Neuadd Cwmlline. Y mae felly yn hanner cant oed eleni ac ni ddylid gadael i'r flwyddyn basio heb gofio y llafur a'r cyfrannu fu i'w chodi, a'r cyfraniad a wnaeth hithau yn ei thro i fywyd cymdeithasol yr ardal. Go brin fod unrhyw Neuadd wedi cael cymaint o help gwirfoddol i'w chodi 芒 Neuadd Cwmlline. Bu casglu arian yn flynyddol ar y dechrau, mewn ardal fechan, i alluogi i'r pentref fentro dechrau'r gwaith. Fel yn achos Neuadd Mynytho
"Cyd-ernes yw'r coed arni,
Cyd-ddyheu a'i cododd hi." Yr oedd y Cwm yn ffodus hefyd bod tri o blant y pentref yn arbenigwyr yn y maes adeiladu. Cofiwn amdanynt heddiw yn nydd y dathlu. Eirig Humphreys y Saer-maen crefftus;
Glyn Rees y Saer-coed o fri; ac
Evan Francis y Plastrwr proffesiynol. Yn gweini arnynt yr oedd gweithlu gwirfoddol o ddynion y pentref 芒'r gaib a rhaw. O s么n am y dynion rhaid peidio anghofio dros y blynyddoedd gyfraniad clodwiw y merched. Y nhw, yn anad neb arall, sydd wedi bod yn gyfrifol am gadw y Neuadd i fynd ac i anadlu bywyd i esgyrn sychion yr adeilad. Yn y Seremoni Agor cyflwynwyd yr allweddi i Syr George Hamer gan y pensaer Mr Ewart Davies a oedd hefyd yn un o blant y Cwm. Cafwyd hefyd gyfraniadau gan Seindorf Aran Corns ac eitemau gan Iola Jones, D. Pugh Owen, John Breese a William Hughes. Y noson honno yr oedd y Neuadd newydd yn llawn i wrando ar Gyngerdd gan G么r Godre'r Aran oedd y pryd hwnnw dan arweiniad Tom Jones. Bwriedir cael cyngerdd eto eleni gan yr un C么r o dan arweiniad Eirian Owen i ddathlu'r hanner can mlwyddiant. Mae'r Neuadd, dros y blynyddoedd, wedi rhoi bywyd i weithgareddau cymdeithasol y fro - diolch amdani. Erthgyl gan Dafydd Wyn Jones
|