大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Blewyn Glas
Eigra Lewis Roberts yng Nghylch Llenyddol Bro Ddyfi 'Geiriau' Eigra
Tachwedd 2007
Bu Eigra Lewis Roberts, y gwestai gwadd yng Nghylch Llenyddol Bro Ddyfi ar ddechrau mis Tachwedd yn sgwrsio am ei gwaith ac yn darlithio ar y thema 'Geiriau'.

Nos Lun 12fed o Dachwedd daeth tyrfa dda ynghyd i Ganolfan Owain Glynd诺r Machynlleth. Cadeirydd y noson oedd Mrs Delyth Rees. Estynnodd groeso cynnes i bawb ac yn arbennig i'r siaradwraig, gan gyfeirio mor freintiedig oedd y gynulleidfa o gael darlith gan un o brif nofelwyr ein cyfnod, sef Eigra Lewis Roberts.

Mae Eigra Lewis Roberts yn byw yn Nolwyddelan, ond yn enedigol o Flaenau Ffestiniog. Mae hi'n awdur 30 o gyfrolau, ac er pan enillodd ei nofel gyntaf sef 'Bryn Hyfryd' wobr 'cystadleuaeth y nofel' yn Eisteddfod Caernarfon, pan oedd hi'n fyfyrwraig yn y brifysgol, daeth anrhydeddau lu i'w rhan. Ym 1965 a 1968 enillodd y Fedal Ryddiaith a Thlws y Ddrama ym 1974. Derbyniodd Radd M.A. a'i gwneud yn gymrawd anrhydeddus coleg y Brifysgol ym 2004, ac yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 2006 hi oedd enillydd y Goron am gasgliad o gerddi.

  • Coron i Eigra Lewis Roberts Mae hi'n awdures gynnil a chaboledig, a chlust i wrando ar ddeialog, ac mae ganddi gydymdeimlad 芒'i chymeriadau. Mae Eigra yn sicr yn nabod ei phobl. Testun ei darlith oedd 'Geirau'.

    Y deunydd y gellir ei wneud o eiriau. Weithiau rydym yn dueddol o ddefnyddio geiriau yn ddifeddwl. Dro arall rydym yn gwybod beth sydd ganddom eisiau ei ddweud ond yn methu'n l芒n n hyd i'r union air sydd ei angen i wir gyfleu ar y pryd. Pobl yn gofyn yn aml iddi `Pam bo chi'n sgwennu?' ac mae hi'n gofyn iddi ei hun 'I be dwi'n sgwennu?' A'r ateb, am fod rhaid i mi, am ei bod yn teimlo rheidrwydd am ei fod yn rhywbeth greddfol.

    Mae geiriau yn tyfu'n frawddegau, yn baragraffau, ac yn stori neu nofel neu ddrama.

    Cyfeiriodd hefyd at ddechrau'r daith ym Mlaenau Ffestiniog, ardal y chwareli llechi. Ei thad a'i mam yn cystadlu ar adrodd mewn Eisteddfodau, er iddi hithau gystadlu ar adrodd yn blentyn, fel yr oedd yn tyfu fyny roedd yn well ganddi gael papur a phensel a thrio sgwennu penillion bach. Erbyn hyn mae hi wedi cynhyrchu 30 o gyfrolau.

    Ymhlith ei chyfrolau diweddaraf mae Rhannu T欧, stor茂au byrion 'Oni Bai' a 'Carreg wrth Garreg'. Nofel am streic fawr Chwarel y Penrhyn 1900 - 03 yw 'Rhannu T欧'.

    Deg o stor茂au byrion sydd yn y casgliad yn y gyfrol 'Oni Bai', a phob stori'n benthyca hwiangerdd neu rigwm yn y teitl. Mae pob stori yn ei ffordd ei hun yn peri i ni feddwl faint y mae bywyd rhywun yn troi ar un digwyddiad neu ffactor - ac oni bai am hynny mor wahanol fyddai pethau.

    Yn y nofel `Carreg wrth Garreg', yr un gymeriadau sy'n ymddangos ag yn y nofel Rhannu'r T欧, a hynny ugain mlynedd yn ddiweddarach. Ond mae ychydig o gymeriadau newydd yn ymddangos hefyd fel Annie a Ben yn cadw'r dafarn.

    Cyfeiriodd Eigra fel y mae darrllen papurau newydd o'r cyfnod, a chofnodion y streic fawr, hanes cyfarfodydd yn y Blaenau a Bethesda, defnyddio pethau ffeithiol yn gymwys a'r dychmygol i greu'r nofel. Diolchodd Delyth Rees yn gynnes iawn i Eigra Lewis Roberts am noson hynod ddifyr ac addysgiadol a diolchodd hefyd iddi hi am gyfoethogi ein ll锚n 芒'i hiaith gadarn a bywiog. Paratowyd paned gan Mair Jones ac Ann Williams.

    Noddir y Cylch gan yr Academi Gymreig.

  • Holi Eigra Lewis Roberts

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Peidiwch 芒 datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy