"Wedi blwyddyn o baratoi, daeth yr amser imi gychwyn ar fy nhaith i Dde'r Amerig ym mis Mai eleni. Pwrpas y daith oedd i godi arian tuag at elusen "Cancer Research U.K." Y trefniant oedd bod yn rhaid imi godi o leiaf 拢3,500 i'r elusen, ac y byddwn yn cael cyfle i wneud trec i ddinas hynafol yr Incas, sef Macchu Picchu ym Mheriw.
Trefnwyd nifer o weithgareddau codi arian dros y flwyddyn. Yn eu plith cafwyd noson gyda'r gr诺p Estella - yng Ngheltica yr Haf diwethaf. Cynhaliwyd Ocsiwn, eto yng Ngheltica, mis Tachwedd diwethaf, a gwerthwyd nifer o eitemau a roddwyd gan fusnesau ac unigolion lleol, yn ogystal 芒 ffrindiau yn cyfrannu gweithiau Celf. Trwy gymorth Dyfrig Siencyn yn gwerthu, codwyd cyfanswm o 拢2,700 y noson honno. Rhaid peidio anghofio calendr Clwb Ffermwyr Ifanc Bro Ddyfi, gyda diolch i'r criw am gytuno imi dynnu lluniau o'u penolau nhw!!
Yn ychwanegol i hyn, cafwyd ymateb caredig iawn gan lawer o bobl i geisiadau unigol. Trwy'r cyfan codwyd cyfanswm o 拢7,004, ac i ffwrdd 芒 fi!! Doeddwn i heb gyfarfod y bobl eraill a fyddai'n cyd-gerdded 芒 mi nes cyrraedd y maes awyr yn Heathrow. Roedd yn hawdd eu nabod, gan fod pawb yn gwisgo crysau T yr Elusen. Hedfan o Lundain i Madrid, ac ymlaen i Lima. Roedd cyrraedd maes awyr Lima yn brofiad ynddo ei hun gan bod anhrefn llwyr yno.
Mae "smog" yn gorchuddio'r ddinas, ac yn rhoi teimlad tywyll iddi, ac arogl pysgod yn llethol. Yn ffodus, dim ond un noson bu'n rhaid aros yno, cyn hedfan ymlaen i Cusco.
Y bore canlynol, aethom yn syth i baratoi i gerdded yn y Sacred Valley oedd yn arwain i ddinas Macchu Picchu. Roedd y noson gyntaf o wersylla yn brofiad ffantastig, a'r olygfa wrth iddi wawrio yn anhygoel. Dyma'r math o olygfa y byddwn i brofi dros y chwe diwrnod nesaf.
Erbyn y trydydd diwrnod yn anffodus, roedd salwch yn y camp, ac wrth gwrs, roedd yn rhaid i mi ei ddal. Ar 么l noson hir iawn o salwch, penderfynodd y meddyg y byddai'n beryglus imi gerdded yn uwch y diwrnod hwnnw gan fy mod mor wan. Roedd y siom yn enfawr, ond wrth imi frwydro i gerdded lawr y mynydd i'r camp i ddal y bws i'r dref agosaf, sylweddolsis mai hwn oedd y penderfyniad iawn. Yn ffodus, roeddwn yn ddigon da i ail ymuno 芒'r daith y diwrnod canlynol.
Roedd cyrraedd uchafbwynt y daith ym Macchu Picchu yn brofiad anhygoel; nid yn unig oherwydd y sialens corfforol, gweld y ddinas, ond hefyd wrth weld ymateb y bobl hynny yr oedd Cancr wedi effeithio ar eu bywydau. Roedd cyfarfod cymaint o bobl gyda'u straeon hapus a thrist am eu profiad yn gwneud i fi sylweddoli bod yr holl ymdrech wedi bod yn werth chweil. Dwi'n gobeithio ymweld 芒 Pheriw eto, a chael cyfle i weld mwy ar Cusco, ac i ymweld 芒 Llyn Titicaca. Mae'r wlad yn un brydferth iawn, a'r bobl yn gyfeillgar dros ben.
Hoffwn ddiolch i bawb fu'n fy nghynorthwyo i godi arian, a thrwy hynny fy ngalluogi i wneud y daith fythgofiadwy yma."
Erthygl gan Elin Vaughan Jones