大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Blewyn Glas
Cerddor Ieuanc y Flwyddyn Cerddor Ieuanc y Flwyddyn
Ionawr / Chwefror 2008
Canlyniadau cystadleuaeth "Cerddor Ieuanc y Flwyddyn" a gynhaliwyd ym Machynlleth yn Ionawr 2008.

Daeth tyrfa dda i'r Tabernacl (Machynlleth) ar ddydd Sadwrn y 26ain o Ionawr i gefnogi 43 o blant a phobol ieuanc o Fachynlleth a'r ardal a fu yn cystadlu yn y gystadleuaeth "Cerddor Ieuanc y Flwyddyn" a drefnwyd gan gangen Machynlleth o'r Lleng Brydeinig.

Roedd y ddau athro cerdd, Mrs Sally Marshall a Mr Chris Dendy yn flaenllaw iawn yn y trefniadau, a mawr oedd eu cyfraniad tuag at y llwyddiant a fwynhawyd trwy'r gystadleuaeth.

Roedd safon y gystadleuaeth yn uchel, ac yn gwneud gwaith y beirniaid yn anodd. Roedd y ddwy ohonynt, Mrs Jane Leggett a Mrs Geunor Roberts yn gorfod dewis 18 i fynd ymlaen i gystadleuaeth y nos, allan o 43 o ymgeiswyr. Roedd chwech adran yn y gystadleuaeth, tair offerynnol a thair lleisiol. I'r prif enillydd roedd Tarian, 拢50 a tharian i'w chadw. Derbyniodd enillydd pob adran 拢25 a tharian i'w chadw a 拢10 yr un i'r ddau gydradd ail ym mhob adran.

Enillwyd y brif wobr gan Elin Blake, Ysgol Bro Ddyfi. Enillydd Blwyddyn 1 i 6 yn yr Adran Lleisiol oedd Lliwen Glwys, Machynlleth a James Michael, Ysgol Glantwymyn a Beca Jones, Machynlleth yn gydradd ail.

Enillwyd Adran Offerynnol Blwyddyn 1 i 6 gan Dafydd Duggan, Ysgol Llanbrynmair a David Rhys Michael a Llinos Owen yn gydradd ail o Ysgol Glantwymyn.

Enillydd yr Adran Lleisiol Blwyddyn 7 - 9 oedd Dylan Meredith Jones, Glantwymyn, Ysgol Bro Ddyfi gyda Ilan Jones, Ysgol Bro Ddyfi a Heledd Davies, Ysgol Bro Ddyfi yn gydradd ail. Enillwyd yr Adran Offerynnol Blwyddyn 7 - 9 gan Lisa Fflur Waters, Ysgol Bro Ddyfi a Gwenno Griffiths, Ysgol Bro Ddyfi ac Ilan Jones, Ysgol Bro Ddyfi yn gydradd ail.

Enillydd yr Adran Lleisiol Blwyddyn 10 - 13 oedd Rhys Jones, Cemmaes Ysgol Bro Ddyfi a Gwyndaf Davies, Ysgol Bro Ddyfi a Marcus Dobson, Ysgol Bro Ddyfi yn gydradd ail.

Enillwyd yr- Adran Offerynnol Blwyddyn 10 - 13 gan Elin Blake, Cwmlline, Ysgol Bro Ddyfi ac Iwan Griffrths, Ysgol Bro Ddyfi ac Elfin Jones, Ysgol Bro Ddyfi yn gydradd ail. Yn ychwanegol i hyn roedd pob un o'r cystadleuwyr yn cael tystysgrif.

Yn ei anerchiad fel arweinydd y noson, eglurodd Mr Hugh Jones, Cadeirydd Cangen Machynlleth a'r Cylch mae un o brif nodweddion y Lleng Brydeinig yw codi arian er lles milwyr a chyn filwyr a'u teuluoedd sydd wedi eu niweidio mewn rhyfel a therfysg, yn aml iawn wrth geisio cadw heddwch. Ac fel gwerthfawrogiad i'r arian sydd yn cael ei godi yn flynyddol ym Machynlleth a'r Cylch, bod yr adran yn teimlo bod trefnu cystadleuaeth o'r math yma yn un ffordd o roi rhywbeth yn 么l i'r gymuned. Eglurodd hefyd er bod arian y pabi sydd yn cael ei hela yn lleol yn cael ei anfon i Lundain i bencadlys y Lleng Brydeinig, mae llawer o'r arian yn dod yn 么l i Gymru. Daeth dros ddau gan mil yn 么l i Ogledd Cymru yn ystod 2007 a darfu i bump o bobl o Fachynlleth dderbyn arian. Diolchwyd i'r gangen gan y Cynghorydd Michael Williams a diolchodd hefyd i'r Tabernacl, ac i bawb a gyfrannodd i lwyddiant y noson.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy