Croesawyd y ddau gan y Llywydd W. J. Davies, Llanbrynmair. Cyfeiriodd mai eleni oedd yr unfed flwyddyn a deugain o fodolaeth y Cylch Llenyddol.
Cyfeiriodd W. J. hefyd at amryw o'r ffyddloniaid oedd yn anffodus oherwydd anhwylder yn methu 芒 bod yn bresennol, sef Dafydd Wyn Jones, y Llywydd Anrhydeddus, Mair Lynne Davies yr Ysgrifenyddes, Alun Williams, y Trysorydd, a'i briod Nerys. Arfon Jones, Dorothy Davies a John M. Davies, Llanbrynmair.
Dymunwyd adferiad iechyd buan iddynt oll. Cyhoeddodd y Llywydd hefyd y newydd da fod y Parchedig W. J. Edwards wedi cyrraedd yn ddiogel i Batagonia lle y bydd yn gweinidogaethu am gyfnod o rai misoedd.
"Cnoc, Cnoc, Pwy sy 'na?" oedd testun cyflwyniad John Ogwen a Maureen Rhys. A dyna a gafwyd, darluniad byw o gymeriadau gwahanol, yn dechrau gyda Maureen yn s么n am ddywediadau plant, gan gyfeirio at y llyfr Saesneg 'Children's letters to God', ac yn cofio dywediadau ei phlant ei hun, fel Guto yn methu 芒 chysgu a hithau yn dweud wrtho am gyfri defaid, toc dyma Guto'n galw eto "Mam, 'dwi wedi cyfri un cae, oes eisiau i mi gyfri'r cae arall?"
Wedyn y tro hwnnw yr aethant fel teulu ar ymweliad i Baris, a chael cyfle i fynd i ben t诺r Eiffel. Roedd yn ddiwrnod braf a chlir ac eglwysi a'u tyrrau i'w gweld ar y gorwel. "Mam, Mam wyt ti'n gweld y byd i gyd o f'ama, lle mae Bangor?"
Darn o waith Caradog Pritchard `Plentyn wedi Siomi' gafwyd gyntaf gan John Ogwen, a 'Gwarchod y babi'. Yna 'Te yn y Grug' Kate Roberts gan Maureen. Yna John yn adrodd y darn digri 'Gwarchod plant drws nesaf.' Wedyn darn allan o 'Traed mewn Cyffion' Kate Roberts, eto gan Maureen. Tro John oedd hi wedyn i bortreadu Johnny South mewn gornest bocsio yn ddoniol iawn, yna Maureen yn cyflwyno 'Llen Meicro', Annes Glyn.Yna'r ddau yn cyflwyno darn allan o'r 'T诺r' Gwenlyn Parry, oedd yn wefreiddiol.
Diddorol a difyr oedd portread y ddau o Kate Roberts a Saunders Lewis allan o `Annwyl Kate, Annwyl Saunders'. Yna i gloi y noson ar nodyn uchel cyflwynwyd Siwan a Llywelyn allan o ddrama Saunders Lewis 'Siwan'.
Roedd y gynulleidfa wedi cael mwynhad pur, ac yn dotio at ddoniau arbennig y ddau berfformiwr, yn medru creu awyrgylch mor amrywiol mewn eiliad. Diolchwyd yn gynnes iawn iddynt gan W. J. Davies y Llywydd. Paratowyd paned gan Mona Jones a Dorothy Pugh.
Ar nos Lun 8 Hydref edrychir ymlaen am noson yng nghwmni'r Parchedig John Gwilym Jones, Bangor. Roedd y noson yn cael ei noddi gan Gyngor y Celfyddydau a'r Academi Gymreig.