大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Blewyn Glas
Sharon Morgan Holi'r actores Sharon Morgan
Ebrill 2008
Bydd Sharon Morgan yn perfformio yn y Tabernacl, Machynlleth ym mis Mai. Mae yna gyfweliad gyda'r actores yn rhifyn Ebrill o'r Blewyn Glas.
Pryd ddechreuodd eich diddordeb mewn actio?
Dechreuodd fy niddordeb pan o'n i'n dair oed mae'n debyg pan o'n i'n arfer perfformio ar ford y gegin i gynulleidfa fach iawn sef fy Mam a'n frawd. Roedd y'm mrawd yn mynd a hat o gwmpas y gynulleidfa anferth ddychmygol oedd yn rhannu'r perfformiad gyda ni! Wedyn tra o'n i'n byw yng Nglanyfferi yn ymyl Caerfyrddin, o pan ro'n i'n 4 tan pan o'n i'n 7, roedd fy Mam yn cynhyrchu dram芒u fel 'The Late Christopher Bean' a 'The Wishing Well'.

Ro'n i a mrawd yn cael mynd i gefn y llwyfan ac fe wnaeth y colur a'r gwisgoedd a'r cyffro argraff ddofn arna'i. Ond dawnsio bale oedd fy nghariad cynta', ac fe ro'n i'n dawnsio gyda cwmni opera Caerfyrddin tra o'n i yn yr ysgol. Yn ystod yr un cyfnod fe ymddangosais yn 'Hollti Blew' gyda aelwyd Caerfyrddin dan gyfarwyddyd T. James Jones ac yna yn 'Dan Y Wenallt' gyda chwaraewyr Talacharn yng nghyfieithiad T. James Jones. Ond er gwaetha'r diddordeb ysol, i Goleg y Brifysgol Caerdydd es i, i wneud gradd mewn Hanes, fel bod gen i rhywbeth i "gwmpo n么l arno fe!". Wrth lwc dw'i wedi llwyddo i gynnal fy hun drwy actio tra hefyd yn defnyddio ngwybodaeth o hanes yn fy ngwaith bob hyn a hyn.

Y theatr neu'r teledu sydd orau gennych a pam?
Well gen i'r theatr gan mai'r actor sy'n rheoli, does dim rhaid stopio o hyd am resymau technegol (cwbl ddealladwy wrth gwrs!) Ar lwyfan pan mae'r perfformiad yn dechrau ma' rhaid i chi gario mlaen beth bynnag sy'n digwydd! Hefyd wrth gwrs, yn fwyfwy dyddie 'ma, ma llawer fwy o amser ymarfer yn y theatr. Yn aml nawr does dim cyfnod ymarfer o gwbl ar gyfer rhaglen deledu, dim ond mynd trwy'r olygfa unwaith ne ddwy a wedyn ei gwneud hi. Y canlyniad yn aml yw bod actor yn chwilio am y peth saff yn hytrach na'r peth mwya' diddorol, ond ma' natur sgriptie teledu hefyd yn tueddu i fod yn arwynebol ac felly does dim angen tyrchu'n ormodol o dan y wyneb, yn hytrach y grefft yw cadw'r emosiyne'n hygyrch a ffresh er mwyn bod yn "real", sy hefyd yn her.

Ma teledu yn talu'n llawer gwell, t芒l bach iawn sy ga'l yn y theatr, felly ma'n rhaid wrth un i sybsideiddio'r llall. Dwi'n hoff iawn o radio fel cyfrwng hefyd, achos yn debyg i'r theatr ma' na fwy o gyfle i fod yn unrhywun yn unrhywle, dyw actor ddim mor ddibynnol ar ei edrychiad, erbyn hyn ym myd teledu ma fel tase na ddisgwyl i chi "fod" yn union fel y cymeriad.

Pa ffilm ydych chi wedi mwynhau ei gwneud orau a pam?
Wnes i fwynhau ffilmio 'Gadael Lenin' yn fawr iawn. Yn rhannol achos ein bod ni wedi'i ffilmio yn St Petersburg oedd yn brofiad anhygoel. Hefyd 'Arian Llosg' a ffilmiwyd yn rhannol yn Montreal. Ond y ffilm dwi wedi mwynhau orau yw 'Martha Jac a Sianco' a addaswyd o lyfr Caryl Lewis gan Caryl ei hun a ffilmiwyd ym Mhontshan! Mae mor anodd i gael gwaith diddorol sy'n ymestyn rhywun ar 么l cyrraedd hanner cant, yn rhannol dyna pam fyddai'n sgwennu sioeau llwyfan fy hun, er mwyn i fi wirioneddol gael yn nannedd mewn i rhywbeth sy'n bwysig ac yn berthnasol i fi yr oedran ydw i. Ar wah芒n i'r her o chwarae Martha ar ei siwrne anhygoel o alar a chaledi a hapusrwydd a'r penderfyniad o oroesi, roedd y ffaith bod y ffilm yn cofnodi ac adlewyrchu rhan bwysig o'n hanes a'n hunaniaeth fel cenedl yn rhoi ystyr arbennig i'r profiad. Ychydig iawn iawn o rhannau mewn unrhyw gyfrwng yn unman sy'n cynnig llwyfan i fenywod sy ddim yn ffitio i'r gwahanol stereoteipie derbyniol bondigrybwyll, yn enwedig menywod sy' dros eu hanner cant.

Mi wnaethom eich gweld yn ddiweddar yn actio mewn pennod o'r gyfres gyfoes `Torchwood'. Sut brofiad oedd hyn?
Oedd Torchwood yn lot o hwyl, am ei fod e'n genre gwirion iawn! Er bod rhaid i chi fod yn gwbwl gredadwy wrth gwrs, y'ch chi'n ymwybodol eich bod chi'n rhan o'r stori gwbl ffantastical 'ma a felly ma' na rhyw ysgafnder yn perthyn i'r holl beth. Beth allai weud?! Siwt neis! Ma' gweithio gyda William Thomas a Robin Griffith wastod yn bleser, a o'dd cyfarfod Nerys Hughes eto'n braf iawn. Mar actorion a'r criw parhaol yn gweithio'n galed iawn iawn iawn, oriau hir ofnadwy yn aml yn ffilmio nos, a weithie heb gyfle i stopio am ginio ond yn gorfod bwyta wrth weithio!

Pa actorion rydych chi wedi mwynhau gweithio gyda nhw? Hefyd, oes un ffefryn?
Dwi'n mwynhau gweithio gyda pob actor sy'n gwbod beth ma nhw'n neud! A ma' lot o rheina yng Nghymru. Dwi'n meddwl bod ganddon ni erbyn hyn doreth o actorion talentog iawn o bob oedran sy ddim yn aml yn cael y cyfle i arddangos eu doniau'n ddigonol. Fe wnes i gyfres gyda Ronnie Barker - 'The Magnificent Evans' yn 1985, a fe o'dd e'n hollol hyfryd a hawdd, yn yr un modd fe weithies i da John Nettles yn 'Midsomer Murders' yn ddiweddar a fe o'dd ynte run peth. Oedd cyfnod ffilmio 'Martha Jac a Sianco' ym Mhontshan gyda Ifan Huw Dafydd a Geraint Lewis yn fythgofiadwy.

Pa gyngor fyddai gyda chi i unrhyw un sydd eisiau mynd i'r byd actio yng Nghymru heddiw?
Mae'n gyfnod gwell mewn rhai ffyrdd i fod yn actor heddiw. Ma' 'na gymaint fwy o gyfleodd gyda dyfodiad S4C. Ac eto mae'n fyd creulonach yn gyffredinol a llawer mwy o gystadleuaeth. Felly mae'n rhaid gweithio'n galed iawn iawn i gael rhan yn y lle cyntaf. Mynnwch hyfforddiant, a wedyn peidiwch byth a bod ofn hala llythyr ne ffonio i ofyn am waith. Peidiwch a phoeni os na chewch chi ateb neu os mai "Na" fydd yr ateb, parhewch i gnocio ar y dryse, bydd un yn si诺r o agor rhywbryd. Ar 么l cael rhan gweithiwch yn galed, dysgwch eich llinelle, byddwch yn brydlon a'n gwrtais a byddwch yn ymwybodol eich bod chi'n rhan o d卯m a mai'r cynhyrchiad yw'r peth pwysicaf.

Bydd cyfle i weld Sharon Morgan yn perfformio yn Y Tabernacl, Machynlleth ar nos Fercher, 14 Mai. Am fwy o wybodaeth cysylltwch 芒'r Tabernacl - 01654 703355


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy