Cynhelir y bencampwriaeth ym Mhalas Alexandra, Llundain, ar yr 21ain o Ragfyr, yn erbyn cyn bencampwr y byd, sef Steve Beaton. Mi fydd y g锚m yn cael ei darlledu yn fyw ar 'Sky Sports' am bedwar o'r gloch y prynhawn.
Llys enw Steve yw 'The Outlaw', ac mae yn cysidro cael ei hebrwng i'r llwyfan gydag un o ganeuon 'Adam and the Ants' sef 'Stand and Deliver'.
"Pan ofynnwyd iddo pam ei fod yn defnyddio'r llys enw yma, dywedodd "Rwyf yn edrych ar fy hun fel math o Twm Sion Cati, hynny yw, fy mod yn ceisio dwyn oddi wrth y cyfoethog (y chwaraewyr enwog proffesiynol), a rhoi i'r tlawd - mi fy hun!
"Na, o ddifrif, rwyf yn meddwl fy mod yn gwneud yn eithaf da gyda adnoddau cyfyngedig, ond rwyf wirioneddol angen mwy o nawdd i allu cystadlu ar wastatir gyda'r chwaraewyr gorau ym Mhrydain a'r byd, ac os oes unrhyw un 芒 diddordeb mewn fy noddi am hir amser neu am un gystadleuaeth, buaswn yn falch iawn pe baich yn dod i gysylltiad a mi."
Cyflogir Steve, sydd yn 35 mlwydd oed, fel Pennaeth Garddio ym Mhlas Talgarth lle mae wedi bod yn gweithio ers 1989 ac mae mewn trafodaeth ar hyn o bryd am gefnogaeth ariannol er mwyn ei alluogi i fynd i gystadlaethau tramor sydd yn angenrheidiol iddo allu ennill pwyntiau tuag at wella ei safle yn rhengau'r byd.
Mae gan Steve a'i briod Paula dri mab sydd i gyd yn Ysgol Bro Ddyfi, sef Dewi (14), Sion (13) a Marc (12), ac aeth ymlaen i ddweud "Rwyf yn lwcus iawn bod Marc, fy mab ieuengaf, mor fedrus ac mor frwdfrydig am ddartiau, ac mi hoffwn ddiolch iddo am roi cymaint o ymarfer gwych i mi, a gwneud yn si诺r fy mod ar fy ngorau cyn mynd i gystadlaethau. Hoffwn hefyd ddiolch i Lee Roberts o'r Dyfi Forester am ei gefnogaeth fel fy unig noddwr ar hyn o bryd."
Dros y blynyddoedd mae wedi chwarae dartiau i'r timau lleol canlynol: y Dyfi Foresters a'r Glynd诺r (Machynlleth), Riverside (Pennal), Neptune (Tywyn), a'r Llew Coch (Dinas Mawddwy).
Mae hefyd wedi cynrychioli Machynlleth, Caersws a Fflint ar lefel 'Super League', a siroedd Trefaldwyn, Maesyfed a Chlwyd. Cafodd ei ddewis fel chwaraewr y flwyddyn dros ei sir bedair gwaith, y tro cyntaf yn '1988/89 pan oedd ond yn un ar bymtheg mlwydd oed.
Yn 2006 Steve oedd y chwaraewr cyntaf i drechu Raymond Van Barneveld (Barney) ar 么l iddo symud o'r BDO i'r PDC. Mae Barney wedi bod yn bencampwr y byd bedair gwaith gyda'r BDO, cyn iddo hefyd ddod yn bencampwr PDC y byd llynedd.
Roedd hon yn g锚m arbennig yn Llundain gyda Barney yn ennill gemau mewn 11, 12 a 14 o ddartiau cyn i Steve ei drechu o bedair g锚m i dair mewn 11, 12, 13 a 13 o ddartiau - dyna chi g锚m!
Ymysg y chwaraewyr enwog eraill y mae Steve wedi eu curo mae pump o gyn pencampwyr y byd, sef Keith Deller, Ted Hankey (2x), Steve Beaton (2x), a'r ddau Gymro Leighton Rees a Ritchie Bumett. Mae hefyd wedi curo Colin Lloyd, Colin Monk, Terry Jenkins(2x), Shayne Burgess(2x), Ray Carver o'r Unol Daleithiau, a rhan fwyaf o chwaraewyr gorau Cymru dros yr ugain mlynedd diwethaf.
Pob lwc i ti Steve a gobeithio cawn sawl cyfle i weld fersiwn Bro Ddyfi o Twm Si么n Cati ar y bocs yn y dyfodol!