Cyhoeddwyd y gyfrol ddiddorol hon yn y Gymraeg yn wreiddiol ym 1855 dan y teitl 'Darlundraeth o Fachynlleth a'i Hamgylchoedd'. Roedd yr awdur, Evan Jones, wedi cynnwys adrannau ar fwy na thrigain o bentrefi, ffermydd, mynyddoedd a dyffrynnoedd, ac yn rhoi inni gipolwg ar ddiwylliant a thirlun ein hardal yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Ac yn awr, mwy na 150 o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae Nicholas Fenwick, Brynglas, Machynlleth wedi ymgymryd a'r gwaith o gyfreithu'r llyfr, ac wedi llwyddo i gadw at naws y gyfrol wreiddiol ac arddull ei chyfnod.
Cyhoeddwyd y cyfieithiad Saesneg cyntaf erioed o'r gyfrol gan Lyfrau Coch-y-Bonddu, Machynlleth.
Mae 'A Portrait of Machynlleth and its Surroundings' yn dod a bywyd yr ardal, cyn dyfodiad y rheilffordd a'i dylanwad, yn fyw iawn inni.
Mae Mike Parker, y darlledwr a chyd-awdur 'Rough Guide to Wales' yn disgrifio'r llyfr fel "cofnod enghreifftiol gwych a diddorol, cofnod gwerthfawr i unrhyw un sydd yn dymuno deall mwy am dref hynafol Machynlleth a'i chyffiniau".
Mae'r awdur yn disgrifio'r amrywiol haenau o fywyd yn y dref a'r ardal ehangach, cyn belled a thraethau Meirion a Cheredigion, draw i Lanbrynmair a'r Domen Fawr, lie safai llys Owain Cyfeiliog, yn Nhafolwern, ac ymlaen i Ddylife a'i weithfeydd mwyn.
Fe luniwyd y gyfrol wreiddiol ar gyfer cystadleuaeth a osodwyd gan Gymdeithas Lenyddol Machynlleth.
Mae 'Darlundraeth o Fchynlleth a'i Hamgylchoedd' yn gasgliad cynhwysfawr o ysgrifau, barddoniaeth a chwedlau o'r ardal hon , ac wedi bodloni'r beirniaid cymaint fel eu bod wedi awgrymu fod y gwaith yn cael ei gyhoeddi.
Dywedodd cyfieithydd y llyfr, Nicholas Fenwick: "Nid oedd Evan Jones, a ddaeth yn ddiweddarach vn weinidog enwog gyda'r Eglwys Fethodistaidd, yn gyhoeddwr ac yn newyddiadurwr, yn ddim ond dwy ar bymtheg oed pan ysgrifennodd ei lyfr.
Eto I gyd fe gasglodd wybodaeth hynod o eang, a byddai llawer ohono wedi mynd ar goll oni bai iddo ef ei gofnodi, a gwneud hynny mewn modd y byddai unrhyw awdur teithio profiadol ei gyfnod wedi body n filch o'i arddel."