Mae aelodau cydweithfa ynni adnewyddadwy Canolbarth Cymru yn dathlu wedi iddynt dderbyn eu tyrbin gwynt diweddaraf ac maent yn edrych ymlaen at gael lansio dyroddiad cyfranddaliadau'r prosiect arloesol. Clywyd yn ystod Cyfarfod Blynyddol Bro Ddyfi Community Renewables, a gynhaliwyd ym Mhantperthog ar ddydd Sadwrn, Mehefin 11 eg, bod y tyrbin Nordtank 500 cilowat wedi cyrraedd o'r Almaen. Bydd yn cael ei gadw ar fferm Hendreseifion, Llanwrin hyd nes y claw gweddill y cyllid i law ac y bydd modd ei osod yn lle'r prototeip diangen ar Fynydd Glandulas. Denodd y tyrbin gryn ddiddordeb yn ddiweddar yn ystod Rali i'r Clwb Ffermwyr Ifanc ar y fferm, lle y bu rhai o'r bobl sy'n rhan o'r cynllun yn bwrw golwg arno. Roedd Edward Jones, un o gyfranddeiliaid y gydweithfa, yn frwd yngl欧n 芒'r cynllun. "Mae'n braf iawn gweld y dechnoleg yma'n cael ei rheoli gan bobl leol er budd lleol", meddai. "Mae'r prosiect hwn yn fwy na'r tyrbin cyntaf yng Nghilgwyn, felly mae yma gyfle go iawn i alluogi fwy o bobl leol rannu perchenogaeth arno." Bydd angen i bobl sydd am gael gwybodaeth am y dyroddiad cyfranddaliadau ymaelodi 芒'r Clwb Buddsoddi Ynni Adnewyddadwy i ddechrau. Cyfrwng yw'r clwb ar gyfer cysylltu byddsoddwyr posibl 芒 datblygwyr addas yn rhad ac am ddim. Dulas cyf., wedi'i leoli ym Machynlleth, sy'n ei redeg. Er bod modd i bobl eu ffonio ar 01654 705018 i ofyn am ffurflen aelodaeth, dywed Andy Warrington o'r Clwb bod ymaelodi arlein yn yn llawer mwy hwylus. Mae ecodyfi eisoes wedi sicrhau 拢43,000 o gyllid Ewropeaidd i'r cynllun drwy Asiantaeth Ynni Canolbarth Cymru. "Bydd y llog a gawn o'r buddsoddiad hwn yn cael ei ddefnyddio i gefnogi adfywio cymunedol", meddai Andy Rowland, y Trefnydd. Disgwylir y bydd benthyciad banc ac unigolion 芒'u bryd ar wneud byddsoddiad egwyddorol tymor hir yn cyflenwi gweddill y cyfalaf sydd ei angen i godi'r tyrbin. "Edrychwn ymlaen at gael croesawu cyfranddeiliaid lleol newydd", meddai John Williams, Cadeirydd y gydweithfa. "Mae newid hinsawdd yn fygythiad i bob un ohonom, a'n bwriad hefyd yw gofalu mai ein cymundd ni fydd yn manteisio o ynni'r gwynt".
|