大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Blewyn Glas
Rhai o'r aelodau gyda Janet yn y Warchodfa Adar yn Llyn Efyrnwy Gwibdaith Cylch Llenyddol Bro Ddyfi
Mehefin 2007
Trefnwyd y daith eleni gan Avona Williams.
Braf oedd ar Sadwrn, Mai 12fed cael cyfle i ymweld 芒 chornel fach o'n Sir ein hunain, ac ymweld yn gyntaf 芒 Llanwddyn ar Warchodfa Natur, cael cyfle i gael paned yn y caffi, ymweld 芒'r guddfan adar, mwynhau'r prydferthwch o gwmpas, yna gwrando ar sgwrs ddifyr gan Janet am hanes y Warchodfa a'r ardal o gwmpas y llyn. Yn y flwyddyn 1881 y dechreuwyd adeiladu'r Argae a boddwyd yr hen Lanwddyn yn 1889.

Cawsom ein hatgoffa o Awdl y prifardd John Evans i'r Argae

Llanwddyn yn llyn heddiw- dinodedd
Ei anheddau chwilfrif
Tan genlli tonnog un lliw
Allorau bro'n y llawr briw

Briw hen y Cwm a brynwyd- yr erwau
Er arian a werthwyd
Y brau feddau a faeddwyd
A'r Llau yn y dyfnder llwyd

A llwyd fel cen y llediaeth- a dorrodd
Ar gwm dewr ac uniaith
Rhy drwm fu gorthrwm Y Gwaith
A chost yr oer orchestwaith

Wedi ymweld 芒 Llanwddyn, cychwyn wedyn am bentref bach Llangynog wrth droed y Berwyn. Cofio am Nansi Richards, telynores Maldwyn wrth fynd trwy Benybont Fawr. Cael cyfle yn Llangynog i fwynhau cinio, cyn adael ein cludo ar fws llai i fyny i Gwm Pennant Melangell a'r eglwys henafol sy'n dyddio'n 么l i'r ddeuddegfed ganrif. Mae pawb yn gyfarwydd 芒 stori Melangell a ddaeth i'r ardal i geisio lloches yn y seithfed ganrif, ac fel y bu iddi achub ysgyfarnog rhag c诺n hela'r tywysog Brochwel. Rhoddodd y Tywysog y dyffryn yn encil iddi, a threuliodd weddill ei hoes yno.

Ym mynwent eglwys Melangell mae Bedd Nansi Richards, Telynores Maldwyn.

Hyfryd oedd cael profi tawelwch a phrydferthwch y cwm unig cyn teithio'n 么l am dref Llanfyllin, ac ymweld 芒 Chapel Pendre, cyn mwynhau paned yng Ngwesty'r Cain.

Wedyn ymweld 芒 phentref Pontrobert. Dywedir mae Pont Robert ap Oliver yw'r enw cywir gan i'r g诺r hwn adeiladu'r bont bren gyntaf er mwyn croesi'r afon i weld ei gariad. Adeiladwyd y bont gerrig tua 1669. Yr ochr draw i'r bont sylwyd bod y Capel Methodistiaid wedi cau ac ar werth. Yn nes i'r bont mae hen d欧 tafarn hynafol iawn a elwid yn Ye Olde Pack Horse Inn.

Byddai Twm o'r Nant yn ymwelydd cyson yn 么l y s么n pan fyddai'n torri coed yn yr ardal. Ychydig i fyny'r ffordd y saif Bryn Gwalia lle ganwyd Dyddgu Owen, ei thad yn weinidog yn yr ardal. Yn y pentref hwn hefyd y ganwyd John Davies y Cenhadwr a aeth 芒'r Efengyl i Ynys Tahiti. Gwr o Tan y Ffridd, Pontrobert oedd y Parch Thomas Jones, Cenhadwr Methodistaidd cyntaf i fynd i'r India.

Braf oedd cael cyfle i ymweld a chapel John Hughes, a chael cyfle i wrando ar Nia Rhosier yn s么n fel yr aed ati i geisio dod芒a'r adeilad yn 么l i'w hen ogoniant ar 么l cael ei ddefnyddio fel gweithdy am flynyddoedd lawer, a chlywyd am yr holl bererinion sydd yn ymweld a'r lle erbyn hyn, i glywed yr hanes am Ann Griffiths a'i hemynau. Fel y bu i Ruth morwyn Ann ac a briododd John Hughes, gofio'r emynau ar ei chof, a'u hadrodd. Diddorol oedd y pulpud pin uchel yng Nghapel John Hughes, hefyd y drws bach oedd yn agor o ystafell wely'r T欧 Capel i'r Capel. Dywedir bod John Hughes syn pregethu o'i wely i'r gynulleidfa ar 么l iddo fynd yn hen ac mewn llesgedd.

Mae cofeb i John Davies, Tahiti wedi ei dadorchuddio yng Nghapel John Hughes.

Wrth deithio'n 么l i Bontrobert ar y llaw chwith gwelwyd Dolobran Fawr. Yno y ganwyd Charles a Thomas Lloyd, perchnogion ystad a gw欧r busnes llwyddiannus. Ymunodd Charles Lloyd 芒'r Crynwyr, carcharwyd ef am ddeg mlynedd yng Ngharchar Trallwm. Ar 么l astudio meddygaeth yng Ngholeg Rhydychen daeth Thomas Lloyd adref. Ymunodd yntau 芒'r Crynwyr ac aeth ar wahoddiad Syr William Penn i sefydlu Pennsylvania yn 1693. Y teulu hynod yma gychwynnodd y Banc enwog Lloyds.

Mwynhawyd swper hyfryd ar ein ffordd adref yng gwesty'r Dyffryn, Foel. Diolchodd Avona Williams i Mair Lynne yr ysgrifenyddes ac Alun Williams y trysorydd ac i bawb a fu'n cynorthwyo i wneud y daith yn llwyddiannus. Diolchodd W.J. Davies, y llywydd newydd, i Avona Williams am drefnu taith mor ddiddorol.

Cyfansoddodd Ithel Rowlands englyn i Avona Williams.

I Avona'n diolch fo hen- am arwain
Am oriau mor grynuo.
Daw atom y gweld eto-
Lliw Cwm Melangell y co'.


Cyfrannwch

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch 芒 datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


Cyfrannwch i'r dudalen hon! 0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy