大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Blewyn Glas
Bethan Gwanas a Heulwen Humphreys Heulwen Ar y Lein
Hydref 2007
Mae cyfres newydd o Ar y Lein gyda Bethan Gwanas wedi cychwyn ar S4C. Roedd Heulwen Humphreys o Aberdyfi yn ffodus i gael teithio rhan o'r daith ar hyd llinell y cyhydedd gyda hi.

Mi rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i gael gweithio ar y ddwy gyfres gyntaf o 'Ar y Lein' fel ymchwilydd, ac mi ges i'r cyfle bryd hynny i deithio i Sbaen a Moroco, ond y tro yma roedd fy r么l i'n dipyn gwahanol gan mai fi oedd yn cynhyrchu a chyfarwyddo hanner y gyfres - ro'n i'n nerfus tu hwnt gan nad oeddwn i wedi gwneud unrhyw waith cyfarwyddo go iawn o'r blaen ac roedd yr her o fynd i Indonesia i wneud y gwaith am y tro cyntaf yn dipyn o sialens!

Roedd Bethan wedi ffilmio dwy raglen cyn ein taith ni, un ym Mrasil ac un yn Ecuador ac Ynysoedd y Galapagos, felly o leiaf roedd hi, Haydn y dyn camera a Derek y dyn sain yn gwybod beth oedd i'w ddisgwyl wrth inni deithio i Sumatra yn Indonesia.

Pekanbaru
Cychwynnodd y bore cyntaf yn ninas Pekanbaru, dinas fodern mewn cyd destun Indonesaidd, ac fe gawson ni dipyn o hwyl yn cwrdd 芒 phlant yr ysgol leol, cyn mynd ymlaen i gael taith lawr yr afon heibio i'r tai `stilts' traddodiadol. Y peth mwyaf syfrdanol oedd y bobol, roedden nhw mor hyfryd ac heb arfer gyda phobl croen golau a gwallt melyn - roedden nhw'n dod o gefn eu beiciau modur ac yn tynnu lluniau ohona i a Bethan ac yn teimlo'n croen ni gan ddisgwyl y byddai'n wahanol!

Er mawr syndod mi fwynheais y diwrnod cyntaf o gyfarwyddo - y cyfan oedd rhaid gwneud mewn gwirionedd oedd dweud wrth bawb arall beth i wneud! Ro'n i wrth fy modd!

Ar gefn yr eliffantod
Ymlaen 芒 ni wedyn i Tahara, a chael modd i fyw mewn canolfan hyfforddi eliffantod! Mae pobl ac eliffantod yn gorfod cyd fyw yn y goedwig yn y rhan yma o'r byd, ond doedd yr eliffantod hyn ddim yn hapus 芒'r sefyllfa, roedden nhw wedi bod yn dwyn bwyd o'r tai lleol ac yn trespasu yn y gerddi! Bwriad y ganolfan oedd dysgu'r eliffantod sut i arfer gyda phobl ac mi oedd Bethan wrth ei bodd yn ymolchi'r creaduriaid ac yn mwynhau g锚m o b锚l-droed a ph锚l-rwyd ar eu cefnau. Doeddwn i erioed wedi dod wyneb yn wyneb ag eliffant o'r blaen ac ro'n i'n synnu pa mor arw oedd eu crwyn, roedd un o'r babis yn trio dwyn ein pecynnau brecwast ni felly dwi'n deall sut mae pobl y goedwig yn teimlo! Do'n i ddim yn hapus `mod i'n colli mrecwast a finnau wedi gorfod codi am 5 i ddod i'w gweld nhw!

Ar 么l bore bendigedig ymlaen 芒 ni wedyn dros y mynyddoedd a heibio golygfeydd a phentrefi bach lliwgar i galon y Sumatra go iawn. Fe dreulion ni ddau ddiwrnod yn ardal Harau Valley ble buodd Bethan yn helpu'r ffermwyr lleol i gasglu'r cnydau reis, gyda dipyn o drafferth a dweud y lleiaf! Bu bron i'r meicroffon ddisgyn i ganol y mwd ar sawl achlysur! Hon oedd yr ardal mwyaf tlws imi ei gweld erioed, roedd y tai mor lliwgar a'r bobl mor groesawgar a gweithgar, roedd eu bywyd yn syml a chaled ond pawb wrth eu bodd yn amaethu.

'Bukkit Tinggi - yn debyg i Fachynlleth'
Ymlaen 芒 ni i dref Bukkit Tinggi - `Tref y cloc mawr', a oedd yn fy atgoffa i o Fachynlleth! Roedd effeithiau'r daeargrynfeydd i'w gweld yma - rhywbeth cyffredin ar y cyhydedd, ond roedd hi hefyd yn gyfle i gwrdd 芒 'r llwyth lleol - y Minangkabau llwyth mamlinachol unigryw sy'n byw mewn tai gyda tho si芒p cyrn byffalo. Y peth a'm synnodd fwyaf am y merched hyn oedd gweld posteri `boy bands' Prydeinig yn y cartref hynafol - roedd y Nain, sef y penteulu yn ffan mawr o'r `Backstreet Boys'. Ar 么l mwynhau'r croeso bendigedig yn Sumatra ymlaen 芒 ni i Borneo - na doedd dim 'day off' na chyfle i orffwys fel mae pobl yn dychmygu wrth feddwl amdanon ni'n ffilmio'r cyfresi yma!

Samarinda oedd y lleoliad cyntaf ar y daith trwy Borneo, dinas boblog ar lan yr afon Mahakam. Roedd bywyd yn cylchdroi o amgylch yr afon fel sy'n gyffredin yn y rhan yma o'r byd, ac yn y bore cawsom gipolwg ar y pysgotwyr a'r amaethwyr lleol wrth iddyn nhw fewnforio'r cynnyrch i'r farchnad leol. Efallai bod y bwyd yn cael ei fewnforio'n ffres ond dydy'n stumog i 'rioed wedi dioddef cymaint! Ai ddim i fewn i fanylion ond gadewch I mi ddweud nad oedd y bwyd yn 'cytuno' gyda fi! Os oedd fy stumog yn dioddef o ganlyniad i'r bwyd doedd taith droellog 6 awr i fyny'r mynyddoedd i Tanjung Issuy ddim yn mynd i helpu! Fuon ni ar goll a gorfod talu bobl lleol i'n tywys ni i'r pentref - buon ni yng nghanol storm law wedyn ac mi gymerodd y daith 9 awr yn y pendraw!

Croeso cofiadwy i Bethan!
Fore trannoeth roedd hi werth yr holl beth pan berfformiodd y llwyth ddawns groeso i Bethan - roedden nhw'n stwffio rhyw blanhigion i fyny ei chrys hi ac yn ei gorweddian hi lawr ac yn perfformio defodau iddi - roedd y golwg ar ei hwyneb yn werth y daith hirfaith! Fe gawson ni dipyn o hwyl! Yn enwedig wrth gwrdd 芒'r Dayak hynaf sy'n honni ei fod yn 130 oed - ac roedd o'n smocio fel tr锚n!

O'r bobl i'r anifeiliaid nesaf ac ymweliad 芒 fferm grocodeilod yn Samboja a chyfle i flasu'r croc kebabs blasus cyn mynd ymlaen i Samboja Lodge i gwrdd 芒'r trigolion enwocaf yn y rhan yma o'r byd - yr orang utans - roedden nhw'n anhygoel a mor debyg i ni! Doedden ni ddim yn cael eu cyffwrdd nhw am fod eu DNA nhw yn 97% yr un peth 芒 ni, ac felly mae dal a throsglwyddo afiechydon mor rhwydd - er gwaethaf hynny roedd cael bod mor agos yn brofiad anhygoel.

Tra bod Bethan a'r criw yn teithio ymlaen i Kenya ac Uganda gyda chyfarwyddwraig arall ro'n i n么l yn y swyddfa yn Abertawe yn trefnu'r daith olaf ac yn rhoi rhaglenni Indonesia at ei gilydd, ond cyn i fi droi rownd roedd hi'n amser i fynd eto!

Gabon a Sao Tome yng Ngorllewin yr Affrig oedd fy nhaith nesaf - a'r rhaglen olaf yn y gyfres gyfan. Do'n i ddim yn nerfus y tro yma ac ro'n i'n edrych ymlaen yn arw - wedi i'r visas gyrraedd (gorfod i un o'm cydweithwyr ddod 芒 nhw i'r maes awyr gan fod y swyddfa yn Llundain wedi ei gadael hi'n funud olaf cyn prosesu'r cais!)

Mae Gabon yn enwog am yfed mwy o siamp锚n y pen nag unman arall yn y byd, a Sao Tome yn enwog am siocled 'Claudio Corallo' - ro'n i a Bethan yn edrych ymlaen yn arw! Roedd criw o Kenya yn dod i gwrdd 芒 ni ar gyfer y ffilmio y tro hwn - Guy y dyn camera, Wil y dyn sain a Susie y fixer, ac roedd dyn lleol o'r enw Antoine gyda ni - (mwy o boen na help llaw) a thua cant a mil o `bodyguards'!

Pethau'n mynd o chwith!
Roedd popeth yn argoeli'n dda gyda'r tywydd braf a'r lleoliad ger y traeth gwyn, ond aeth popeth o chwith yn go sydyn! Doedd y camera ddim yn fodlon gweithio! Ar y daith olaf un roedd o wedi concio allan! Roedd y ceir yn torri lawr a phroblemau gyda'r arian lleol! Mi dreuliais i fwy o amser mewn banciau ac yn y cwmni camera lleol na fues i'n ffilmio! Ar 么l perswadio'r cwmni lleol i logi'r unig gamera teledu lleol inni am grocbris a pherswadio'r banc i roi arian i fi mi roedd pethau'n gwella, ond ar y bore cyntaf gyda'r camera newydd penderfynodd Guy, y dyn camera, ei fod am brynu crwban m么r yn y farchnad lleol ble roedden ni'n ffilmio - roedd y crwban ar fin cael ei ladd ar gyfer y cig, ac roedd Guy, llysieuwr, wedi ei wylltio'n llwyr oherwydd roedd yn cael ei gam-drin!

Achub crwban rhag marw
Wedi prynu'r crwban anferth a thalu 4 boi lleol i'w gario i'r car ymddangosodd yr heddlu! Roedd si yn y farchnad ein bod ni am gipio'r crwban a mynd 芒 fo n么l adref er mwyn gwneud arian! Dwi'n ame y byddai'r gost am `excess baggage' hyd yn oed yn fwy stiwpid pe bai hwn wedi dod adref efo ni! Ta waeth, ar 么l perswadio'r heddlu mai am ei ryddhau o roedd Guy, penderfynwyd peidio ein harestio ni! Ond gorfod inni gael ein tywys i'r traeth mewn `convoy' gyda'r heddlu, ac aros gyda nhw nes hod y crwban wedi ei ryddhau! Doedd o ddim yn ddoniol ar y pryd coeliwch fi!

Wedi'r holl halibal诺 fe wellodd pethau am gyfnod, fuon ni allan yn y goedwig yn cwrdd 芒 dynes hysbys lleol, fuon ni mewn pentref yn cwrdd 芒 llwyth y Fang - dawnswyr gorau'r cyhydedd yn 么l Bethan! Ac mi gwrddon ni 芒'r bobl ifanc mwyaf ysbrydoledig - gr诺p o wirfoddolwyr lleol oedd wedi sefydlu gorsaf radio arbennig i ddelio 芒 phroblemau'r ifanc - o addysg i broblemau iechyd megis Aids - ac mewn cyfweliad byw ar y radio mi welais i Bethan Gwanas yn edrych yn nerfus ... am y tro cyntaf erioed!

Yn anffodus, oherwydd y problemau technegol nid oedd diwedd y daith mor bleserus 芒'r disgwyl gan nad oedd modd inni fynd i Ynys baradwys Sao Tome. Serch hynny fel y gwelwch o'r rhaglen fe wnaethon ni'r gorau o'r diwrnod olaf a chael llawer iawn o sbort ar jet ski arbennig yn Point Dennis! Mae'r holl deithio wedi dod i ben erbyn hyn a'r pethau munud olaf yn cael eu hychwanegu i'r rhaglenni ... a do mae'r rhaglen olaf wedi dod at ei gilydd yn gr锚t! Cofiwch wylio'r gyfres!

Am fwy o wybodaeth cysylltwch a Heulwen Humphreys ar 01792 485674 neu ymunwch 芒'r blog - www.arylein.bloespot.com


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy