大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Blewyn Glas
Cyfarchion y Nadolig
Rhagfyr 2004
Wenna Parry, un o ddarllenwyr Blewyn Glas yn rhannu ei phrofiadau o baratoi at yr 诺yl.
Rydyn bellach ar drothwy y Nadolig, y siopa' wedi'u haddurno a theganau drudfawr yn cael eu hysbysebu ar y teledu - rhai eisioes wedi prynu ac ysgrifennu eu cardiau cyfarch. O'm rhan fy hun yn flynyddol 'rwyn cael cryn anhawster dod o hyd i gerdyn gyda llun deche', cyfarchiad Cymraeg ac at achos da. Troediaf strydoedd Bangor heb fy niwallu ond ychydig mwy lwcus yn siopau elusen Stryd Llyn Caernarfon. Pob blwyddyn gwnaf addewid i mi fy hun i droi ati i wneud fy nghardiau personol ond yn ddifeth ni wireddir fy mreuddwyd.

Ar b'nawn Sul fel arfer bydd troi at yr orchwyl a'r Sul hwnnw ychydig ddyddiau cyn gorfod talu am stampiau dosbarth cyntaf gan fy mod yn y b么n yn dipyn o grintach. Bydd bwrdd y gegin yn bentwr anniben o gardiau, amlenni a llyfr cyfeiriadau o'r arch - ychydig iawn o godau post ac ad-drefnu'r siroedd yn y De yn gymhlethdod pellach.

Bydd fy ysgrifen yn ddestlus ar gyfer yr ugain cyntaf ond yn dirywio fesul dwsin pan 锚l y garddwn i frifo gydag 么l brys wrth i mi ddynesu at y cyfarchion olaf. Pam o pam bob blwyddyn rwy'n syrthio i'r un patrwm a'r holl fisoedd ar gael at y gwaith? Pam nad ydw' i'n prynu cardiau fel morynion call wythnos yr Eisteddfod?

Bwyd traddodiadol a weinir ar ein bwrdd ni ddydd Nadolig - y twrci, y moron, y sgewyll, y tatws a'r panas rhost gydag Islwyn yn claddu dwy lond powlen o bwdin plwm a menyn toddi. Bydd dewis o bwdin ysgafnach ar gyfer y rhai hynny sy'n gwylio pwysau. Rhyw edrych ymlaen at y pryd a phigo fel cywion ieir fydd ein hwyresau gan honni fod cinio'r ysgol yn blasu llawer yn well. Yn barod mae'r ddwy yn llawn rhamant yr 诺yl ac yn eiddgar ddisgwyl i ysgrifennu llythyr, trio penderfynu faint o foron i adael i'r ceirw a pha un ai 7-Up neu Coca Cola fydd at d芒st yr hen Si么n Corn eleni.

Prif ddiddordeb Elenya, yr hynaf sy'n bump oed, yw meddwl tybed ai Gabriel neu Mair fydd ei thynged yng ngwasanaeth yr Ysgol Sul newydd yng Nghapel Methodistiaid Calfinaidd Willow Tree Road, Altrincham. Bydd Mariel sy'n ddwy yn ddigon hapus i fod yn 'extra'. Mae 'Pwy sy'n cysgu yn y gwair, Faban Sanctaidd, Faban Mair' yn cael ei hymarfer o fore gwyn tan nos a chael gwisgo i fyny yn llawer mwy o hwyl na bwyta jeli a'r hufen i芒 ym mharti'r festri.

Mae llawer ohonom wedi chwarae rhan angel mewn ffrog hir wen gyda thinsel o halo, neu'r bugail wedi'i orchuddio mewn tywel ymolchi a ffon un o'r ffermwyr lleol yn ei law, neu'r brenin mewn hen lenni melfed a choron garbod yn cludo'r aur neu'r thus neu'r myrr at y preseb.

Cofiwn ninnau fel teulu am ddram芒u geni'r Ysgol Sul Unedig ym Mro Ddyfi a'r perfformiad yn symud o'r Tabernacl, i'r Graig ac i Gapel Maengwyn yn eu tro gydag Olwen Evans a Mairlynne Davies wrth y llyw. Roedd rhyw asbri ym Melin y Wig, Ffordd y Drenewydd flynyddoedd yn 么l hefyd cyn cyngerdd y GFS yn Vane Hall a chryn ymarfer git芒r a charolau Hawys Glyn yn nosbarth Menna Thomas ynghyd 芒 thiwnio bondigrybwyll y feiolin cyn perfformio yng nghyngerdd yr Ysgol Gynradd.

Nadolig Llawen a phob bendith i chi i gyd a'ch teuluoedd ac i holl drigolion Bro Ddyfi.

Wenna Parry.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy