´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Pethe Penllyn
Treialon cwn defaid Y Ganolfan Wledig Genedlaethol
Awst/Medi 2006
Mae pawb sy'n gysylltiedig ag Antur Penllyn wrth eu bodd yr wythnos yma wedi clywed y newydd da fod eu cais am arian Amcan 1 i sefydlu y Ganolfan Wledig newydd ar dir Rhiwlas wedi bod yn llwyddiannus.
Dafydd Llewelyn Williams, Plas Moelgarnedd, yw Cadeirydd y Grŵp a fu'n gweithio ar y cynllun ers dros bum mlynedd, ac mae'n tystio iddynt bron a rhoi'r ffidil yn y to fwy nag unwaith, yn bennaf am fod angen argyhoeddi cymaint o gyrff am werth datblygiad o'r fath.

Ar y cychwyn Canolfan yn ymwneud â defaid a chŵn defaid oedd mewn golwg a bu'n anodd symud ymlaen i'r cyfeiriad yma. Felly lluniwyd prosiect ehangach, prosiect twristiaeth am fywyd cefn gwlad a bywyd gwledig.

Gyda phob prosiect fel hwn mae'n rhaid cael cefnogaeth cynifer o gyrff cyhoeddus a phreifat, pob un yn gallu rhoi mwy na geiriau caredig - yn arbennig arian. Felly aed ati i sicrhau y byddai cyrff fel y Cyngor Sir, y Bwrdd Croeso, a mwy, yn cefnogi ac fe ddaeth hynny a chytundeb am arian Amcan 1. Ers i hynny ddigwydd mae cyrff eraill wedi gofyn am ddod i mewn hefyd - mae pawb yn barod i ddilyn y gwariwrs mawr!

Yn ogystal ag apelio at bobl leol a thwristiaid bydd ysgolion lleol ac adrannau amaethyddol colegau yr ardal yn manteisio ar y darpariaethau. Bydd yna le i droi i mewn am baned ar ôl cerdded yn hamddenol ar hyd y gwastad i gyfeiriad yr hen fatri brwshis ger Sgubor Isa, Rhiwlas. Bydd yno arddangosfeydd parhaol a thymhorol ac mae San Ffagan wedi cael cais i ddarparu'r rheini.

Nodwedd arall o'r lle fydd amffitheatr fach lle gall pobl grynhoi i gael cyngerdd neu wylio pasiant, gwrando ar sgwrs ac ati. Yn naturiol disgwylir y bydd digonedd o gyfeiriadau at hen draddodiadol yr ardal yma ym myd amaeth yn bennaf, ond am ein diwylliant cyffredinol hefyd.

Sut fydd pethau'n symud ymlaen ar hyn o bryd? Gobeithir anfon manylion allan i gael tendrau i wneud y gwaith - mae'r cynlluniau wedi bod yn barod ers tro - cyn diwedd Awst, gyda'r gwaith adeiladu yn cychwyn cyn diwedd 2006. Gallai'r Ganolfan agor yn gynnar yn 2008. Yn lled fuan hefyd bydd hysbysebu am rai o'r 7 o staff llawn amser y bwriedir eu cael i redeg y Ganolfan. Beth amdani?


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý