´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Pethe Penllyn
Cofeb Thomas Charles Sgwriad go dda i Thomas!
Rhagfyr 2004/Ionawr 2005
Thomas Charles wedi ei lanhau
Fel y gŵyr llawer mae Capel Tegid wedi bod yn pryderu am gyflwr cofeb Thomas Charles yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Eleni mae apêl wedi ei lansio i dalu am waith cynnal a chadw hollol angenrheidiol ar y gofeb ac ar y railings o'i chwmpas gan gynnwys y giatiau a'r darnau sy'n cysylltu'r gofeb â'r capel.

Mae'r gwaith wedi ei ymddiried i'r cwmni a ailgododd y tŵr yn gynharach eleni, sef Chester Masonary o Benarlâg.

Fel y sylwodd llawer ac fel y mae'r llun yn ddangos, y cam cyntaf oedd rhoi sgwriad go dda iddo mewn dull sydd wedi bodloni'r cyrff cadwraethol. Yn dilyn hyn aeth arbenigwr o'r cwmni ati i dynnu enw Thomas Charles i ffwrdd o'r gofeb - roed llythrennau ei enw mewn plwm ac fel pob plwm, yn araf yn dirywio oherwydd yr elfennau. Ond mae'r amlinell wedi ei dorri i'r marmor i'w weld yn eglur o hyd. Bydd plwm newydd yn cael ei lunio i lenwi'r bylchau yma.

Y cam nesaf wedyn yw ceisio llenwi'r craciau sydd ym môn y gofeb, ac yn olaf, adnewyddu'r railings.

Mae'r gronfa wedi pasio'r £10,000 gydag ychydig o ffordd i fynd eto. Derbynnir rhoddion yn ddiolchgar ac fe all unigolion sy'n talu Treth Incwm helpu ymhellach trwy Rodd Cymorth sy'n codi pob £1 yn £1.28. Cysylltwch â swyddogion Tegid.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý