´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Pethe Penllyn
Mart Bryncir Ffermwyr: hyder yn isel
Hydref 2006
Aeron Prysor: 'O Ben y Bryn'
O siarad â hwn a'r llall yn ystod gweithgareddau'r haf y caiff rhywun adlewyrchiad teg o gyflwr gwirioneddol pethau.
Bu i mi siarad â llawer eleni - "Do, m'wn," meddai rhai ohonoch! - a'r casgliad y deuthum iddo oedd bod ysbryd ffermwyr, waeth pa sector bynnag yr oeddynt ynddo, yn is nag y bu erioed.

"Pam hynny?" meddai rhai ohonoch o'r tu allan i'r diwydiant. Mae sawl rheswm: hyd y gwela' i, yr ydym wedi cael ein cyflyru sawl tro i feddwl fod pob math o bethau am achub y sefyllfa, - cwotâu, er enghraifft, a'r diweddaraf, y taliad sengl, a chynlluniau cadwraethol, - a'r gwirionedd yw nad yw'r un ohonynt wedi datrys y broblem o godi incwm i lefel dderbyniol.

Cyhoeddwyd eleni yn y sioe fawr, fel yn wir y gwnaed llynedd, fod archfarchnadoedd tramor newydd i gig oen Cymru, a bod dyfodol llewyrchus i gynhyrchwyr. Mae arnaf ofn mai cyfiawnhau swyddi yn unig a wna'r cyhoeddiad.

Yn sicr, nid oes unrhyw adlewyrchiad mewn pris. Mae hwnnw yr un lefel ag yr oedd ugain mlynedd a deng mlynedd ar hugain yn ôl. Pwy fedr ddal ati tra mae costau yn codi yn flynyddol oedd y gŵyn? Mwy a mwy o awdurdodau yn dweud wrth rywun beth i'w wneud, pryd i'w wneud a sut i'w wneud, oedd sylwadau eraill a glywais sawl tro.

A thristwch mwyaf y sefyllfa yr ydym ynddi, mae'n siŵr gen i, oedd y ffaith fod mwy a mwy o fechgyn ifanc oedd wedi aros yn deyrngar i'r tir, erbyn hyn wedi cael llond bol ac yn cefnu am swyddi y tu allan i ffermio. Rhai teuluoedd yn wir wedi buddsoddi yn helaeth mewn tir ac arallgyfeirio yn y blynyddoedd a basiodd, dim ond i weld cyfoedion yn cael llawer mwy o gyflog am lai o waith a llai o oriau.

Sawl un yn gweld cynlluniau cadwraethol yn llyncu cyfalaf ers sawl blwyddyn ac yn fuddsoddiad sydd yn gwella'r fferm yn weledol ond sydd yn straen ychwanegol cyn belled ag y mae cynhyrchu incwm yn y cwestiwn.

Pwyntiau cwbl deg i gyd na fedrwn ddadl all llawer yn eu herbyn, ond pwyntiau a ddylai fod ar ben agenda pwyllgorau gaeaf undebau a Chynulliad, problemau sydd angen eu datrys ar frys, dybiwn i.

Fu hyder o fewn y diwydiant ddim mor isel erstalwm iawn!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý