´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Pethe Penllyn
Yn ôl i'r Bala
Awst 2007
Nos Lun 16 Gorffennaf cynhaliwyd cyfarfod i drafod y bwriad o gynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Bala yn 2009.

Daeth cynulleidfa luosog iawn o bob rhan o Feirionnydd ynghyd i ddangos eu cefnogaeth i'r Eisteddfod.

Wedi llwyddiant ysgubol Eisteddfod 1997 mae'n amlwg bod Swyddogion yr Eisteddfod yn awyddus iawn i'w gweld yn dychwelyd i Feirionnydd yn 2009 ac roedd y nifer ddaeth ynghyd yn profi mai dyna yw dymuniad pobl Meirionnydd hefyd.

Mynegodd Elfyn Llwydd hynny'n ffurfiol trwy wahodd yr Eisteddfod yn ôl i 'Grud diwylliant Cymru' fel y dywedodd.

Pwysleisiodd bod tair elfen hanfodol i bob Eisteddfod sef y lleoliad, ewyllys yr ardal i weld yr Eisteddfod yno ac wrth gwrs, diwedd pob cân yw'r geiniog.

Er bod pryderon am fod Cyngor Gwynedd wedi nodi na fyddant yn medru cyfrannu arian ychwanegol at yr Eisteddfod hon, fe leddfwyd peth ar y pryderon hynny pan gyhoeddodd Llywydd y Llys, D Hugh Thomas ei fod yn bwriadu sefydlu Cronfa ac y byddai'n cysylltu â chant p gyn drigolion Meirionnydd i ofyn iddyn drefnu gweithgareddau i godi arian tuag at Eisteddfod 2009.

Nododd ei fod yn gobeithio medru codi dros £100,000 fel hyn.

Esboniodd Hywel Edwards bod yr Eisteddfod wedi newid y drefn o gynnal pwyllgorau i ddewis testunau ac y gellid cyflawni'r rhan fwyaf o'r gwaith mewn cyfnod byr o tua chwe wythnos erbyn hyn.

Gan fod y cyfan yn swyddogol o hyn ymlaen fe gawn ni edrych ymlaen o ddifri am groesawu'r Eisteddfod eto. O dorchi llewys a chydweithio fe allwn sicrhau y bydd Eisteddfod 2009 hefyd yn un i'w chofio.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý