Bu i'n rhaglen eleni gynnwys rhai o'r hen ffefrynnau fel helfa drysor, bowlio deg, chwaraeon yng Nglanllyn ac amrywiaeth o nosweithiau efo gwÅ·r gwadd.
Ond hefyd cafwyd gweithgareddau newydd fel cystadleuaeth gwneud cardiau efo Ria Thomas, ymweld â'r sluice gates yn Y Bala, a twrnament poker!
Bu rhaid hefyd i ni ail ymweld â Rope Works gan fod Gareth Charles wedi mwynhau ei hun gymaint y tro dwetha!
Casglwyd arian i'r clwb trwy gynnal noson o dân gwyllt, gyrfa chwist o chanu carolau.
Codwyd hefyd swm o arian tuag at DÅ· Eos pan aethom i rafftio lawr yr afon Tryweryn, diwrnod llwyddiannus iawn. (Gweler y llun o'r rafftwyr glew.)
Mi fentrodd dau dîm i gwis y sir yn Fronolau ond doedd dim digon ym mhen yr un tîm i allu dod yn agos i'r brig!
Siomedig oedd presenoldeb y clwb yn y Rali eleni. Dim ond pedwar o'r clwb fentrodd i Ddinas Mawddwy yn y tywydd mawr.
Bu'n Sioe Sir Feirionnydd lwyddiannus, er i goed Tyddyn Ronnen brofi'n rhy galed i ambell un ger stondin Caffi Meirionydd wrth daro hoelen i foncyff!
Ym mlwyddyn gyntaf y noson Gwaith Maes, daeth Rhodri Brynllech, Telor Tyddyn Ronnen o Tom Pengeulan yn ail ar y ffensio, a chafodd Telor ac Euros Nanthir 3ydd am yrru beic modur.
Roedd hi'n edrych yn dda pan godwyd tent y clwb mewn chwinciad, ond mi graciodd rhywun (Euros) yr ŵy.
Ma' 'ne wastad un, yn does! Doedd diwrnod chwaraeon y sir ddim yn mynd i fod yn hawdd o'r dechrau gan mai dim ond pump ohonom ni gyrhaeddodd!
Ond yn y darts cyrhaeddodd dau o'r clwb y ffeinal, gyda Iwan, Prys Mawr, ym curo Rhodri yn y ffeinal.
Cafwyd hwyl ar y barnu stoc eleni gydag Aronwen Nantllyn, Euros a Telor yn dod i'r brig ym Moes terran, gan fynd ymlaen i gynrychioli'r sir yn y Ffair Aeaf.
Llongyfarchiadau mawr i Aranwen a lwyddodd i ddod yn ail yno am yr ail flwyddyn yn olynol.
Doedd neb o'r criw iau wedi bod yn barnu carcas o'r blaen, felly roedd hi'n gyfle da iddynt gael blas arni, gan fod o wedi ei leoli yng Nghwmonnen, Llanuwchllyn.
Gwell lwc y tro nesaf, gobeithio. Yn y cystadlaethau ysgafn yn Rhydymain aeth criw a rai ifainc eto i gael blas ar y noson.
Roedd pawb wedi mwynhau'n fawr ac am ymgeisio mwy o gystadlaethau'r flwyddyn nesaf.
Roedd y nifer a gystadlodd eto'n siomedig yn yr Eisteddfod Sir, ond llwyddodd Gruffudd Antur ddod yn ail yn y llefaru don 16 a daeth Siwan Franey yn drydydd am unawd allan o sioe gerdd.
Mae'r côr wedi bod yn llwyddiannus ers blynyddoedd bellach, ond ail fu ein hanes eleni.