Glanhau siediau'r gwartheg oedd fy ngorchwyl i y dydd Gwener hwnnw ym Mehefin tua 1938. Amser troi y stoc allan ar 么l gaeaf hir, a'r buchod llaeth erbyn hyn mewn porfa ffrom. Roedd fy nghyfaill, Meirion Jones y wagner, yn llyfnu priddwal gyda'r wedd.
Gwyddwn fod Bob Lloyd y bos yn cymryd napyn ar 么l cinio fel arfer. Yn y man es i wneud m芒n orchwylion hyd y buarth. Roedd carthion y buchod yn ffrom wrth fynd allan o'r beudy ar 么l eu godro, a rhaid oedd brwsio hwnnw i gornel er cadw'r lle yn gymharol l芒n. Gyda hynny y daeth "Miss Davies y llaeth" fel y galwem ni hi heibio'r fferm. Swyddog gyda'r Weinyddiaeth oedd hi, i gadw golwg ar y beudai ac i gynghori ar lanweithdra:
"A cofiwch," meddai wrthyf, fod yn rhaid i'r tu allan fod yn l芒n hefyd!"
"Mae Mr Lloyd yn y ty, meddwn wrthi.
"Does gennyf ddim amser i alw heddiw, mi ddof yma eto, mae gennyf amryw o ffermydd yn y Sarnau isio sylw." Ac i ffwrdd 芒 hi.
Un rhinwedd yn y lle oedd amser. Pob pryd bwyd yn ei amser i'r funud. Os byddai'r gweddoedd yn llafurio yn y caeau byddai Dwysan yn dod 芒'n prydau inni trwy bob tywydd, i'r funud.
Galw ar y buchod i odro am ugain munud i bump, yna noswylio am chwech o'r gloch. Ond y pnawn yma dyma floedd, "Bowch" dros y lle am ugain munud i dri y prynhawn. "Helo," roeddwn wrthyf fy hun. "Mae'n rhaid fod parti Tairfelin yn cadw cyngerdd yn rhywle neu mae 'na Steddfod yn go bell". Dyma floedd arall, "Bowch" tros y lle a dyma'r cwn oedd yn cysgu ar riniog y drws yn bwrw i yddfau ei gilydd i baffio fel pe tae'r byd ar ben. Yna aeth y ddau i fyny'r llechwedd i chwilio am y fuches laeth.
Cael te, ac ati i odro; tri ohonom pob un 芒'u geunog i odro'r mymryn llaeth, ac allan 芒'r fuches eto gan adael rhagor o'u carthion ar y concrit. Doedd gennyf i ddim syniad beth oedd yn mynd ymlaen.
Di-sgwrs odiaeth oedd "Lloyd" gartref ar y buarth, ond mi roeddwn i wedi cael harc yn y Llan y noswaith gynt fod Cefnddwysarn wedi cael menthyg wagen gan Mr Griff Williams, Penisa'r Llan i fynd 芒 phlant Ysgol Sul y Cefn i Sasiwn y Plant y Bala.
Gyda hynny roedd swn siarad mawr yng ngwaelod y buarth, John Edwards Tyn Garreg, Glanrafon, plethwr ceffylau dan gamp ac Ed Davies wagner i Tomi Jones y glo, Corwen, dyn ceffylau eto, pawb yn fel "Ned bach y glo".
Y ddau wedi dod i Bethel ar y bws ac yna ei cherdded hi am y Derwgoed, a dyma Lloyd allan o'r ty i'w croesawu. Os oedd hi'n ddistaw cynt, wel s么n am siarad. Yna paned ac wedyn i'r Granar. Un 芒 bocs carbod yn llawn o garpie, brass, tiniau, a llu o f芒n bethau. Gan y llall roedd ei gynhyrchion ef yn cynnwys rosettes, rhubanau o bob lliw a llun, a llu o fan bethau redi med a serenod pres, llachar.
Y gorchwyl a gefais i oedd tynnu llwch a duo'r tresi. Roedd Lloyd ar y fainc yn cadw sgwrs, a bron o'r golwg mewn mwg, a hynny hyd hanner nos. Gyda'r wawr lwyd drannoeth roedd y ddau blethwr ar y buarth yn barod i boeri a rhwbio'r lledrau.
Trefnu ceffylau oedd hi i fod wedyn. Ceffyl y Derwgoed i fod yn siafftiau'r wagen. Meredydd Jones, Cae Coryn yn rhoi ceffyl canol, ceffyl du pedair oed 18 llaw o uchder ac yn ddiniwed fel dafad. John Hughes y Cynlas yn rhoi caseg i fod ar y blaen. Roedd bachgen o Stiniog wedi dod i weithio yno a doedd o ddim wedi astudio geograffi y Cefn, a dros awr ar 么l colli ei ffordd, medde fo!
A dyma hi, caseg yn edrych yn dda, i'r dim medde pawb a'r ddau blethwr erbyn hyn yn eiddgar am gael pen ar y trimio. Dyna ddechre rhoi'r tresi mewn trefn. Taro tresi blaen ar gaseg y Cynlas. Ond "Wow," teimlodd honno'r tinbren yn mynd ar ei chrwper a dyma hi'n bwrw cic gyda'i ddwy droed 么l gan daro Elis Elis yr Hendre yn ei frest. Doedd o ddim llawer gwaeth yn gorfforol gan iddo fynd wysg ei gefn i'r chwdrel. Aed ag o i'r ty i'w lanhau; doedd pethau ddim llawer gwaeth iddo.
Roedd caseg y Cynlas wedi rhoi dampar ar bob peth erbyn hyn. Rhaid oedd i Lloyd ei gwamio hi am y Cefn i siarsio'r plant i fyhafio. Roedd tipyn bach o sleit-delay ac yna cyrhaeddodd yn 么l yn ei chwys. Roedd ei drywydd yn amlwg, croesi Caebanc, Ffridd Ty Llwyd, Cefnbyrlas a mwg baco i'w arogli yn gryf yn yr awyr.
Yna yn ei 么l i'r bwtri gan lenwi ei fol 芒 llaeth enwyn, ac 么l hwnnw yn amlwg ar ei wenau. Wedi cynnal pwyllgor brys rhaid oedd rhoi'r gaseg yn y siafftiau - "Iddi ddysgu byhafio" medd rhywun.
Pwyllgor brys yn y Cefn wedyn. Gyda llaw doedd Jennie Bond heb gyrraedd bryd hynny! Rhaid oedd i ddau aelod o ddosbarth canol yr Ysgol Sul fod o boptu'r wagen i daro clocsen o flaen yr olwynion 么l, os 芒i y ceffylau yn rhy gyflym. Yna tri o'r dynion trymaf o'r dosbarth hyn i gerdded y tu 么l yn barod i lusgo fel ecstra br锚c, colli sodlau neu beidio. Yna rhieni'r plant i gerdded o'r tu 么l, a'r rhain yn debycach i gynhebrwng na Sasiwn Plant. A ffwrdd 芒 ni am y Bala a'r plant yn canu "Plant bach lesu Grist ydym ni bob un".
Wrth Ty'n Pren roedd Band y Dref yn ein croesawu. Ar Bont Tryweryn roedd llu o weision ffermydd a meibion yno yn rhoi eu barn ar y plethu a'r trimins. Mynd trwy'r dref, dangos cofgolofn Tom Ellis a Thomas Charles yna ar dro i lawnt y Coleg i gael paned a gwrando mwy ar siarad nag ar ganu.
Yna ail-gerio'r ceffylau a llwytho'r plant i'w throi am adref. Y modern gr卯s' (toddion cig moch) wedi sychu yn yr olwynion erbyn hyn a phob un o'r rheini a gwahanol sgrech. Y tynnu fyny yn mynd yn galed ar yr elltydd i'r Cefn a mwy o gwyno nag o ganu yn dod o gyfeiriad y seti caled.
Cyrraedd y Cefn a'r ddau drimiwr wedi hen flino disgwyl a'u catiau bron wedi llosgi allan. Dadlwytho a dad-gerio y ceffylau oedd yn falch erbyn hyn o gael mynd i ymdreiglo. Finnau'n falch fod popeth drosodd. Do, bu bron iddi fod yn ddiwrnod angeuol. Ni fu llawer o s么n am y trip wedyn, and mi roeddwn i yno, ac rwyf yn cofio'r cwbwl.