Bu'r ŵyl flynyddol yn llwyddiant ysgublol eto eleni ac mae'r trefnwyr i'w llongyfarch yn fawr am fynd ati i drefnu digwyddiad sydd yn sicr ar galendr pawb sy'n mwynhau cerddoriaeth dda a chymdetihasu yng Ngogledd Cymru a'r Canolbarth.
Rhyfedd meddwl pa mor sydyn y mae'r ŵyl wedi tyfu, o'r dorf o 450 ddaeth at ei gilydd yn 2004 i'r 2,700 fu yno eleni. Nid mater bach yw trefnu gŵyl fel hyn a hynny dan lygaid barcud swyddogion iechyd a diogelwch. Er bod yr agwedd honno yn ychwanegu'n sylweddol at y costau mae'n bris y bydd yn rhaid ei dalu i'r Ŵyl fedru parhau ar yr un raddfa.
Wedi cychwyn ar lan Llyn tegid a mentro i'r Grin y llynedd, roedd gosod y babell ar gaeau Rhiwlas yn fenter newydd eleni ond yn sicr bu'n llwyddiant.
Un agwedd ar Wa Bala sy'n gysion bob blwyddyn yw parodrwydd cymedeithasau lleol i gyd-weithio i sicrahu llwyddiant. Dyma ddigwyddodd eto eleni gyda chymaint â 120 o wirfoddolwyr yn helpu.
Heblaw cael y bobl leol i gydweithio, peth arall sy'n holl bwysig gan y trefnwyr yw sicrhau bod pawb sy'n mynychu yn cael clywed y gerddoriaeth Gymraeg orau a hynny at bob dant.
Yn sicr fe lwyddwyd i wneud hynny eleni, fe ddaeth Folta, Labrinth, Cowbois Rhos Botwnnog, Daniel Lloyd a Mr Pinc, Meinir Gwilym a Dafydd Iwan i'r llwyfan nos Wener ac yna Pala, Yr Anioddefol, Moving Lights, Cowbois Celtaidd, Frizbee, Gwibdaith Hen Frân, Gai Toms, Gola Ola, Elin Fflur a Radio Luxembourg ar y nos Sadwrn, dyna i chi arlwy, a hynny ar ein stepen drws yn y Bala.
Trefnwyd digonedd o weithgareddau i'r plant ar y prynhawn dydd Sadwrn ac wrth gwrs roedd raid cael y Reslo yn ôl ar y Dydd Sul.
Llongyfarchiadau i'r trefnwyr am drefnu penwythnos gwych ac am sicrhau y bydd nifer o gymdeithasau lleol yn cael budd ariannol.
Eleni hefyd roedd £1 o bris pob tocyn yn cael ei roi at gronfa Brian Davies sy'n dweud y cwbl am agwedd y trefnwyr tuag at yr Ŵyl ac at yr ardal.
|