Mae'n rhaid i'r Pasg ddilyn cyhydnos y Gwanwyn, sef Mawrth 21, ac mae'n rhaid iddo hefyd ddilyn ymddangosiad y lleuad llawn cyntaf ar ôl y cyhydnos - sef dydd Gwener, Mawrth 21. Felly, eleni, mae Sul y Pasg ar ddydd Sul, Mawrth 23ain.
Ond pwy feddyliodd am y ddeubeth yma fel sail i gadw Sul y Pasg? Cofiwn fod Sul y Pasg yn ddydd atgyfodiad Crist, ond yr oedd y Pasg yn Ŵyl ymhell cyn hynny. Yr oedd yr Iddewon yn cadw'r ŵyl i gofio'r adeg pan ddaeth pla i'r Aifft i ladd plentyn cyntaf anedig ar aelwyd pob Eifftiwr. I sicrhau nad oedd plant yr Iddewon yn cael yr un driniaeth gorchmynwyd iddynt roi marc croes ar ben eu drysau, wedi ei wneud o waed oen, ac y byddai'r pla yn pasio heibio i'r tai hynny. Ac i sicrhau bod y pla yn gallu gweld pa dai oedd â chroes ar bennau'r drysau roedd y lleuad llawn yn tywynnu yn y cyfnod pell yn ôl hwnnw.
Dywedir bob blwyddyn gan rywun ei bod hi'n hen bryd sefydlogi Gŵyl y Pasg i wneud dosbarthiad y gwyliau yn decach yn ystod y flwyddyn. Ond nid oes dim symud ymlaen wedi bod...
|