大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Pethe Penllyn
Baner Cymru Cymraeg yn Gyntaf
27 Chwefror 2004
Mae'n bleser gan Menter Iaith Gwynedd ac Antur Penllyn dynnu eich sylw at ymgyrch gyffrous fydd yn dechrau ar Ddydd G诺yl Dewi 2004 ac yn para am wythnos gyfan.

Ymgyrch yw hi i berswadio'r cyhoedd i ddefnyddio mwy o'r iaith Gymraeg yn eu bywydau bob dydd, gan eu hannog i ddefnyddio "Cymraeg yn Gyntaf!"

Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg, mewn partneriaeth 芒 Mentrau Iaith Cymru ac Antur Penllyn, yn targedu nifer o ardaloedd penodol yng Nghymru fel rhan o'r ymgyrch, ac mae'r Bala yn un ohonynt. Bydd y Bwrdd yn darparu nifer o adnoddau "Cymraeg yn Gyntaf" am ddim gan gynnwys posteri, sticeri, baneri, bal诺ns, arwyddion cownter a beiros.

Hefyd, i dynnu cymaint o sylw ag sy'n bosibl, byddwn ni'n hysbysebu ar fysus lleol, yn trefnu digwyddiadau lleol ac eitemau o ddiddordeb yn y wasg a'r cyfryngau. Rydyn ni'n gobeithio creu tipyn o fwrlwm yn ystod yr wythnos!

Eisoes, mae gweithgor lleol wedi ei sefydlu i drefnu'r ymgyrch, a gyda'ch cefnogaeth chi, gallwn edrych ymlaen at ymgyrch gyffrous fydd yn arwain at gynyddu'r defnydd o'r iaith Gymraeg yn Y Bala a'r ardal.

Digwyddiadau
Cynhelir Gig G诺yl Ddewi nos Wener 27ain o Chwefror yng Nghlwb Golff y Bala i ddechrau'r wythnos gyffrous a bydd Sara Mai a'r Moniars a Bysedd Melys yn perfformio yno. Yn ogystal, bydd Sali Mali yn mynd o amgylch cylchoedd Ti a Fi yn ystod yr wythnos gyntaf yn mis Mawrth gan gynnal sesiynau crefft, stori a chan gyda'r plant.

Cynhelir cystadleuaeth G诺yl Ddewi lle rhoddir gwobr o 拢100 i'r Ffenestr Siop sydd wedi ei haddurno orau ar gyfer dathlu G诺yl Ddewi. Bydd gornest fawr rhwng Clybiau Ffermwyr Ifanc Penllyn yn yr Eisteddfod Dafarn yn Plas Coch.

Bydd Cymdeithas y Dysgwyr (CYD) yn cynnal noson o g锚mau iaith yn y Llew Gwyn nos Iau, 4ydd o Fawrth.Digwyddiadau eraill a gynhelir yn ystod yr wythnos honno ac sydd yn anghysylltiedig ag Antur Penllyn yw Eisteddfod yr Annibynwyr ac Eisteddfod Cylch yr Urdd. Hefyd, bydd Theatr Bara Caws yn dod i Ysgol y Berwyn. Digwyddiadau ydynt sy'n hyrwyddo'r diwylliant Cymraeg, ac sy'n arwydd o'r cyfoeth o ddiwylliant sydd yn yr ardal.

Ond nid ymgyrch yw hon sydd am i bobl ddechrau pob sgwrs yn y Gymraeg yn ystod yr wythnos honno'n unig, ond yn hytrach ymgyrch i sbarduno pobl i ddefnyddio'r Gymraeg yn gyntaf o hyd.

Os hoffech gael gwybodaeth bellach yngl欧n 芒'r ymgyrch, cysylltwch ag Awel Mehefin Edwards (Swyddog Iaith Antur Penllyn) ar 01678 520920.

Wythnos 'Cymraeg yn Gyntaf' 1 7 Mawrth 2004-02-27


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy