´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Pethe Penllyn
Stryd Fawr y Bala Cantref
Tachwedd 2006
Y 15 mlynedd cyntaf
Mae union bymtheg mlynedd ers creu CANTREF, ac mae'n werth atgoffa ein gilydd am y cyfnod hwnnw.
Yn y cyfnod 1989-1991 bu swyddogion ymchwil o Goleg Polytechnig Manceinion yn ymchwilio i sut y gallai saith o drefi yng Nghymru wneud mwy o'u potensial i ddenu ymwelwyr. Fe ariannwyd eu prosiect gan arian Bwrdd Datblygu Cymru Wledig a Bwrdd Croeso Cymru. Dyna oedd blaengarwch ar ran y Coleg! Sicrhau swyddi yn y Coleg ym Manceinion efo arian Cymru! Sut y dewiswyd y Bala fel un o'r saith tref nid oedd neb yn siŵr iawn. Bu un swyddog yn ymweld yn gyson a'r Bala a thrafod efo rhai o arweinwyr y fro mewn llawer maes, a ffurfiwyd pwyllgor llywio a fyddai'n cyfarfod yn Henblas.

Cwestiwn pawb i'r swyddog oedd sut y gellid ariannu unrhyw fenter pe byddem yn dymuno hyrwyddo un. Ei ateb syml oedd na fedrai neb ateb hynny nes y byddai'n wybyddus beth y bwriedid ei wneud. Roedd hyn yn digalonni llawer!

Yr oedd Capel y Plase yn wag ar y pryd, wedi ei adnewyddu yn fewnol gan y Cyngor Sir, heb wybod yn iawn i beth, ond, ar gais taer y dref, nad oedd yr adeilad ddim i'w chwalu i wneud un maes parcio mawr. Yr oedd y swyddog yn gweld y lle yn fan y dylid datblygu arno.

Yr oedd rhai o aelodau'r pwyllgor llywio yn ei gweld hi'n od mai'r bwriad oedd creu darpariaeth ychwanegol ar gyfer ymwelwyr, ac y dylai y datblygiad fod o fudd i'r gymdeithas leol i gyd ac nid dim ond i'r rhai oedd yn dibynnu am ychydig fisoedd bob blwyddyn ar arian o bocedi'r ymwelwyr.

Yr oedd y swyddog yn credu y dylai fod gan Benllyn 'storïau' i'w dweud a fyddai o ddiddordeb i ymwelwyr. Holodd pa rai ac wrth gwrs yr oedd digonedd ohonynt - yn ymwneud a phynciau fel Thomas Charles, Michael D. Jones, Tom Ellis, Owen M. Edwards, y Rheilffyrdd, y Treialon Cŵn Defaid, yr Eisteddfodau, y Ffeiriau, y Llyn, Boddi Tryweryn, ac felly ymlaen. Rhoddwyd y syniad gerbron y gellid darparu arddangosfa barhaol neu amgueddfa yn y Capel Bach, ond tra byddai honno yn rhoi cipolwg bras iawn ar y storïau i ymwelwyr achlysurol ni fyddai pobl leol yn debyg o gael mantais barhaol ohoni. Cytunwyd fodd bynnag i roi yr awgrym o ddefnyddio'r Capel Bach fel canolfan i'r gweithgarwch ac aed a'r mater i Gyfarfod Cyhoeddus yn Neuadd y Cyfnod yn yr hydref 1991. Cafwyd trafod brwd a holi cwestiynau am lle y doi y pres unwaith eto! Ond cytunwyd i symud ymlaen ac etholwyd swyddogion dros dro.

Yr oedd y cyfarfod nesaf yn y Ganolfan hefyd ac fe gafwyd pwyllgor gwaith. Huriwyd arddangosfa ar Hanes y Celtiaid ar gyfer yr haf, 1992, ac fe ddechreuodd y gwaith. Er bod ymwelwyr yn galw, er bod storïau lleol di-ri wedi eu cyflwyno, ychydig o'r ymwelwyr sydd yn dod o gymharu â rhif y bobl leol. Efallai, felly, na wireddwyd syniad swyddogion Manceinion, ond gobeithio bod pobl Penllyn yn teimlo i chwi gael adnodd ychwanegol, buddiol, ar eich cyfer.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý