Erbyn heddiw, yn amlach na pheidio, yr eisteddfod sy'n ei gwahodd
ei hun, neu'n trefnu efo'r cyngor lleol i ymweld ag ardal arbennig, ond roedd pethe'n wahanol ers talwm.
Ardaloedd oedd yn ymgiprys am y fraint o gael ei chynnal.
Yn 1965 anfonwyd dirprwyaeth o Feirion i ymddangos ger bron Cyngor yr Eisteddfod yn y Drenewydd i ofyn am gael cynnal g诺yl
1967 yn y Bala ar wahoddiad y sir gyfan.
Rhuthun oedd yr ardal arall yn y ras, ond roedd gan Feirionnydd ddau gawr arbennig
i siarad drosti, sef yr Henadur Tom Jones Llanuwchllyn, ddaeth wedyn yn gadeirydd y pwyllgor gwaith a'r Parch Huw Jones ddaeth yn is-gadeirydd y pwyllgor hwnnw.
Roeddwn i yn y cyfarfod yn un o lu cefnogwyr y cais ac fe gafwyd siarad grymus dros ben gan y ddau. Fe wnaeth y Parch Huw Jones argraff arbennig gan iddo ddefnyddio rhan o ysgrif 0 M Edwards am y Bala i wneud ei ap锚l.
Cyfarch yr eisteddfod fel tase hi'n ferch ifanc wnaeth o drwy ei anerchiad ac estyn gwahoddiad iddi gan ddefnyddio geiriau O. M. - "A ddoi di am dro i'r Bala?" Fe swynwyd aelodau'r Cyngor ac i Feirion y daeth, ac fe gafwyd g诺yl i'w chofio.
Yn anffodus dydi Tom Jones ddim efo
ni bellach, ond y mae'r Parch Huw Jones yn fyw ac yn fywiog, dros ei naw deg oed
erbyn hyn, a'r rheswm mod i'n crybwyll digwyddiadau 1967 ydi am mai fo fydd
yn agor y Babell Len ar bnawn cynta'r eisteddfod - y dydd Sadwrn.
Y fo fydd y cynta i ymddangos ar lwyfan y babell, ond nid yr olaf o bell ffordd gan fod gwledd flasus wedi ei pharatoi ar eich cyfer gydol yr wythnos.
Does dim gofod i s么n am bopeth fydd yn digwydd, ond dyma rai o'r uchafbwyntiau:
Ar y Sadwrn, yn dilyn yr agoriad, fe fydd yna gyfle i gofio dau o gewri Meirionnydd sef Ifor Owen ac O. M. Edwards.
Mae pwyllgor coffa Ifor Owen wedi paratoi rhaglen hynod o ddiddorol i goffau y gwron hwnnw, rhaglen y meddyliwyd i ddechrau am ei chynnal yn Theatr y Maes, ond y barnwyd y byddai'r adeilad hwnnw yn rhy fach iddi. Mae lle i saith gant a hanner yn y Babell Len erbyn
hyn, ac edrychwn ymlaen at gynulleidfa fydd yn llenwi'r babell.
Yn dilyn bydd Mari Emlyn yn traddodi darlith newydd sbon i gofio ei hen daid Syr O. M. Edwards, ac y mae hi
ddarlithwraig hynod o fywiog a diddorol.
Mae hwn yn achlysur arall o bwys o gofio mai a hanner o flynyddoedd i ddydd Nadolig y flwyddyn ddiwethaf y ganwyd y gwr arbennig yma.
Ac yna i orffen y pnawn bydd rownd derfynol cyfres y 大象传媒 o Dalwrn y Beirdd . Gerallt Lloyd Owen yn Feuryn.
Wel dyna beth fydd dechrau da, pnawn Sadwrn llawn danteithion, ernes o wleddoedd eraill yn ystod yr wythnos. Does dim gofod yma i enwi popeth, ond mae Bob Tai'r Felin a T Llew Jones yn ddau gawr arall fydd yn
eu cofio, heb s么n am y darlithwyr o fri sy dod atom leni megis Yr Athro Gruffudd AIed Williams (gynt o Lyndyfrdwy) i s么n am Owain
Glynd诺r trwy lygaid y beirdd, Hywel Teifi
Edwards i draddodi y ddarlith lenyddol gyda'r testun gogleisiol "Darwin a'r Eisteddfod," a Derec Llwyd Morgan i s么n am emynau John Roberts Llanfwrog, fu'n weinidog yng Nghapel Tegid.
Gyda llaw bydd cyfle i'r gynulleidfa i ganu ambell un o emynau John Roberts yn y cyfarfod hwn.
Rhaid cyfeirio cyn tewi at un digwydd arall. Yn 1997 pan oedd yr eisteddfod yma ddiwethaf, fe gychwynnwyd ar y bartneriaeth ryfeddol sy'n bodoli rhwng Harri Parri a John Ogwen.
Cafwyd cyfres Stori Awr Ginio gyda John Ogwen yn darllen stori newydd o waith yr awdur bob dydd.
Ers hynny mae dros
ddeg ar hugain o stor茂au wedi eu cyflwyno yn eisteddfodau'r gogledd ac eleni fe lwyddwyd i ddwyn persw芒d ar y ddau wron i gydweithio
unwaith eto - am y tro ola medden nhw gan orffen lle dechreuson nhw, yn y Bala.
Bob awr ginio o ddydd Mawrth hyd ddydd Gwener fydd John Ogwen yn darllen straeon newydd sbon gan Harri Parri, straeon am gymeriadau arbennig cymdeithas od a rhyfeddol Carreg Boeth, cymdeithas y mae'r awdur wedi e chreu mor fyw yn ei ysgrifennu, ac fe noddir y cyflwyniadau hyn eleni gan Awen Meiri y Bala.
Fe grybwyllais fod y Babell Len yn dal saith cant a hanner o bobl erbyn hyn. Fydd hi'n ddigon mawr i rai o'r cyfarfodydd yr tybed?
Elfyn Pritchard (Cadeirydd y Pwyllgor Ll锚n)