Fel y dwedais i wrth un wraig - ac fe
wyddwn i ei bod hi'n un house-proud
- "Tase chi'n gwneud eich gwaith o lanhau, naill ai yn ddyddiol neu yn wythnosol, fase ddim angen y springclinio bondigrybwyll yma!"
Wna i ddim ailadrodd beth oedd ateb y wraig honno.
Ta waeth! Roeddwn i fyny ar rownd Celyn flynyddoedd go lew yn 么l bellach ac wedi galw yn Hafodwen, cartref John Abel, a dyna lle roedd Abel yn llewys ei grys ac yn edrych yn brysur iawn.
A minne dipyn bach yn fusneslyd, dyma ofyn i Abel beth oedd yn ei wneud mor eger.
Yr ateb oedd, "Springclinio, was! Rydw i wedi gorffen un llofft.
Cer i fyny i ti gael gweld beth ydy peintiwr!" I fyny a fi i'r llofft a dyma floedd, "Paid ag edrych yn y lIofft arall!"
Mi goelia i ei fod wedi gwthio pob dim i mewn i honno! Sut yn y nefoedd oedd o'n mynd i'w cael nhw oddi yno, 'dwn i dim.
Ond cymeriad unigryw oedd Abel a'i
ddywediadau; pan dorrwyd i mewn i Siop Frongoch yr oedd mewn penbleth.
Roedd rhaid gwneud ffilm o'r 'Highway Robbery' medde fo, ac un bore, pan oeddwn wrth gi芒t T欧 ucha, a phlismyn fel morgrug ar hyd yr ardal, dyma eu fan yn dod i lawr y ffordd ac Abel
yn eistedd yn set y passenger ac yn gweiddi arna i, "Oes gen ti lythyre i mi?"
Doeddwn i ddim yn gwybod ai Cymro neu Sais oedd y plismon, a dyma fentro yn yr iaith fain, "Well, you've caught him at last!"
Wel, os oedd yna floedd cynt dyma Abel yn gweiddi, "Cau dy geg y diawl gwirion. Mae'r rhain yn ame pawb!"
Ond dyna fi wedi mynd ar gyfeiliorn yn barod. Y gair springclinio gychwynnodd y meddwl i grwydro gan fy mod yn greadur digon bl锚r
efo gwaith papur.
Dyne ddwedodd Catherine - "Rhaid i ti gael springcl卯n."
Mae yna lot yn beth ddwedodd hi!
Mi ddos ar draws hen lun o Bont Mwnwgl y Llyn - tybed faint o bobol sy ar hyd Stryd Fawr y Bala fase'n gwybod am yr hen bont?
Mae'n debyg mai'r llyn fase'n eu harwain at yr hen bont sydd bellach wedi cael pont newydd i gymryd ei lle.
Tybed faint ohonoch chi sy'n gwybod beth ydy ystyr y gair "mwnwgl"? Meddai un o'r golygyddion wrthyf, mai 'gwddf' neu 'gwddw' ar lafar ydy 'mwnwgl'.
Trwy'r gwddw cul yn ardal y bont mae dwr y llyn yn troi'n afon
Ddyfrdwy ac yn cychwyn ar ei
thaith i'r m么r.
Mi gefais inne dipyn bach os gwdfa ar gornel yr hen bont unwaith.
Roedd hen berson Llanfor yn cadw gwenyn yn Dolwen Isa, Cwm Hirnant, a dyma gnoc ar y drws yn gofyn a faswn i'n mynd efo fo yn y fan oedd gennyf ar y pryd i n么l y gwenyn.
Ac i ffwrdd a ni i lawr Heol Tegid, flynyddoedd cyn agor y by-pass.
Mi dorrais dro y bont yn rhy sydyn a doedd set y passenger ddim yn sownd ar y gore a dim safety belts bryd hynny.
Dyma'r Rheithor a'i draed i fyny yn nhu 么l y fan ac yn gweiddi, "Where am I."
Finne'n meddwl y dylai fod yn ddiolchgar mai mynd i n么l y gwenyn oedd o neu mi fase 'na
lanast go lew arnon ni.
Ond dyna ni, roedden ni'n hanner
ofn yr hen berson; caem ochor pen
ar ychydig iawn ganddo.
Roedd yn
gofalu am eglwys Rhosygwalia,
a rhywsut neu'i gilydd, unwaith,
mi dwlodd y car ar ei ben a dyna lle roedd o wedyn, ddim gwaeth, yn chwilota am y pres casgliad!
Gallwn sgwennu llyfr am ups and downs yr hen Berson.
Cyn cychwyn i fyny rhiw Ty'n Gwrych o'r bont gellir troi i'r dde am y Wenallt.
Dyma i chwi beth oedd golygfa o'r Bala a'r llyn ond ar fore oer ym mis Medi pan oedd tarth ar y llyn roedd fel tasech chi'n gweld gorchudd o gotton wool.
A hyn wnaeth i mi feddwl am y llun yma o'r hogie ar eu moto-beics.
le, roedd yna fynd go arw yr adeg honno cyd rhwng rasys scrambl yn Bryn Ethol, ond mae osgo ar E.W. Edwards (neu Mac Lake Cottage) a Dei Wenallt fel tasen nhw'n
i anelu am yr Isle of Man.
Y tu 么l mae Robin Cledwyn, Dewi Tyisa a Wyn Wenallt.
Wrth ymlwybro i fyny rhiw Ty'n Gwrych mi fydde'r diweddar Bob Evans, Bob y Lori Laeth (cyn mynd yn Bob yr Ambiwlans) yn mynd a'i lori i ben y rhiw yn barod at
ei chychwyn ben bore wedyn.
Doedd dim
cychwyn yn ei chroen hi fel arall a llawer tro mi fues efo Bob draw am ardaloedd Llangollen i gludo llaeth i ffatri Melin Rhug.
le, amser difyr iawn!
A chyn darfod rwyf wedi dod ar draws hen enwau o ardal Llwyneinion a Rhosygwaliau.
Mi geisiaf gofio amdanynt y tro nesaf ond tybed pwy oedd Cystennyn?
Dyma i chwi ddarn o'i waith:
Dyma'r fan a'r lle'm ganwyd
Heddiw does hanes dan y gronlwyd
Ple ar y ddaear mor lwyd
A llwybr elor lle bu'r aelwyd.
Hyd y gwela i dydy Sw锚l ddim digon da i gau sgidie Cystennyn!