Mae hon yn daith i garedigion Pethe Penllyn a balch oeddem o weld y ffyddloniaid wedi ymgynnull eto eleni, a hynny ar Wern Llandrillo. Elsbeth Jones oedd y trefnydd ac yn wir fe gafwyd taith hynod ddiddorol. Cychwyn o'r Wern a dilyn Heol Maengwynedd a thrwy'r pentre. Rhyfeddod pawb fod Llandrillo yn lle mor fawr! Ymlaen heibio Rhos Helyg, Rhos Ucha a Thy'n Coed a throi am Cadwst Mawr. Yno caswom wledd i'r llygad gweld hen furddun, yr hynaf ym mhlwy Llandrillo cred rhai, yn cael ei adnewyddu. Dotio at y trawstiau hynafol a'r gofal sydd yn cael ei gymryd o'r hen adeilad i'w droi yn annedd cysurus unwaith yn rhagor. Yna heibio Cadwst Bach gan ddringo at Blaendre Isa ac ar i waered wedyn heibio Garthiaen ac yn ôl i'r Llan.
|