Bydd nos Sadwrn 18 Awst 2007 yn aros yn hir yng nghof llawer ohonom fel noson arbennig iawn.
Trefnwyd yr achlysur ar fferm Dd么l-fach, Llanuwchllyn er mwyn i holl aelodau'r mudiad, ddoe a heddiw gael cyfle i nodi'r ffaith bod mudiad y Ffermwyr Ifanc wedi bod yn weithgar ym Meirionnydd ers 65 o flynyddoedd.
Trawsnewidwyd sied ddefaid Dd么l-fach yn neuadd am y noson a braf oedd gweld y lle yn orlawn ac yn llawn sgwrsio wrth i'r aelodau ymgynnull i hel atgofion.
Paratowyd llun hardd i nodi'r dathliad gan Bethan Jones, Byrgoed Bach, ac roedd cyfle i brynu print ohono ar y noson cyn i'r gwreiddiol fynd ar ocsiwn. Yng nghanol y llun y mae englyn gan Gerallt Lloyd Owen, yntau'n gyn-aelod yn y Sarnau,
Yr wyt yn ifanc erioed,- hen fudiad
Dyfodol ieuengoed
Ac ar riniog yr henoed
Nid ofni di fynd i oed.
Wedi gwledda ar y bwyd a baratowyd gan yr aelodau cafwyd gwledd yr un mor flasus mewn cyngerdd dan arweiniad deheuig Evie Morgan Jones.
Rhoddodd Syr Meuric Rees, Tywyn, anerchiad pwrpasol i agor y cyngerdd ac yna daeth Lona Meleri, Edryd Williams, Arfon Williams, Mary Lloyd Davies a Tom Gwanas ymlaen i ganu yn eu tro ac yna cododd C么r Clybiau Meirionnydd dan arweiniad Beti Richards y to i gloi'r gyngerdd.
Hoffai'r Mudiad ddiolch yn arbennig i deulu Dd么l-fach am eu parodrwydd i'n cefnogi fel arfer ac i'r holl fusnesau lleol fu mor garedig 芒 noddi'r noson mewn sawl ffordd. Diolch yn fawr i bawb.
|