´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Pethe Penllyn
Vincent Evans Dathlu yn Nhrevelin
Gorffennaf 2008
Beryl Griffiths yn dweud hanes y criw a gyd-deithiodd a Chôr Godre'r Aran i Batagonia.
Mae Trevelin ac Esquel wedi cael cryn sylw dros yr wythnosau diwethaf wedi i fynydd Chaiten dros y ffin yn Chile ffrwydro am y tro cyntaf ers miloedd o flynyddoedd a thywallt ei ludw i gyfeiriad Ariannin.

Chwith iawn oedd clywed Margarita Green yn dymuno cael rhyw Fimosa newydd i gludo trigolion Cwm Hyfryd i gyd yn ol i Gymru o'r llwch a'r tristwch.

Bu'r criw a deithiodd gyda Chôr Godre'r Aran fis Tachwedd yn ddigon ffodus i weld Cwm Hyfryd ar ei orau.

Anodd iawn yw ¬disgrifio harddwch y Cwm a'i apêl, ond os gallwch chi ddychmygu dyffryn ffrwythlon llawn tyfiant wedi ei amgylchynu gan fynyddoedd uchel a'u copaon i gyd yn wyn a'r cyfan fel petai'n disgleirio yn yr haul dan awyr las danbaid a rhyw dawelwch dwfn o'ch cwmpas ym mhob man mi fydd gennych ryw syniad o'r darlun.

Roedd hi'n haf cynnar pan oeddem ni'n cyrraedd wrth gwrs, ac yn digwydd bod ~- ¬ roeddem yno ar yr union gyfnod y daeth y Cymry o hyd i'r lle am y tro cyntaf ac y rhoddwyd yr enw 'Cwm Hyfryd' arno. ¬

Criw dan arweiniad Rhaglaw Chubut ar y pryd, gŵr o'r enw Luis J Fontana oedd yr ¬Ewropeaid cyntaf i ddarganfod yr ardal.

Roeddent wedi cytuno i deithio'r wlad gyd¬a Fontana iddo gael gweld y diriogaeth oedd dan ei reolaeth.

Gwelwyd Mathew Rhys yn gwneud yr un daith ar y teledu yn gymharol ddiweddar.

Y Rifleros oedd yr enw a roddwyd ar y criw, ac roedd un neu ddau yn sicr â chysylltiadau a Phenllyn yn eu plith, David P Roberts, mab Cambrian, Llanuwchllyn yn un, ac mae sôn am 'Jones Pantmarch' y criw hefyd.

Roedd hi'n antur fawr iddyn heb wybod beth oedd o'u blaenau yn iawn er bod un o'r criw, John Daviel Evans, wedi crwydro llawer iawn ar y paith cyn hynny ac wedi gorfod ffoi rhag y brodorion ar ei geffyl enwog Malacara, wrth gwrs.

Yn ôl cofnod John Daniel Evans o'i daith fe gyrhaeddodd y fintai Gwm Hyfryd dros y Graig Goch ar 25 Tachwedd 1886, ac fel hyn mae'n disgrifio'r olygfa o ben y graig 'gwelem yr holl fro dan fantell o niwl tew nes peri i'r olygfa fwyaf rhamantus a welodd ein llygaid erioed'.

Ond y bore wedyn i'r niwl godi y gwelsant y Cwm mewn ¬gwirionedd ac y dywedodd un o'r Cymry 'Wel, dyma Gwm Hyfryd' a rhoi ei enw i'r lle yn syth.

Er mwyn cofnodi'r daith fawr honno mae pobl Trevelin yn dal i gynnal dathliad yn flynyddol. Rhan bwysig o'r dathliad yw'r orymdaith drwy'r dref ac mae disgynyddion y 'Rifleros' gwreiddiol yn cae lle blaenllaw.

Maent yn cychwyn o'r Graig Goch noson cyn y dathlid ac yna ar ben y graig cyn teithio i lawr i'r Cwm a chael asado fawr wrth 'Ysgol 18' cyn treulio noson yno.

Mae i Ysgol 18 le pwysig yn hanes Ariannin hefyd gan mai yno y gofynnwyd i drigolion, - ¬ Cwm Hyfryd bleidleisio a oeddynt am fod yn rhan o Ariannin neu Chile.

Oherwydd iddyn nhw bleidleisio dros aros yn rhan o Ariannin yn mynd y cadwodd y wlad ei gafael ar yr ardal i gyd.

Mae amgueddfa fechan yn yr hen ysgol erbyn hyn i nodi ei phwysigrwydd.

Roedd dydd Sul 25 Tachwedd 2007 yn, diwrnod mawr i Drevelin felly, ac roedd Côr Godre'r Aran yn rhan bwysig o'r dathliadau gan iddynt gael cynnal cyngerdd y noson honno yn y dref.

Daeth cynulleidfa fawr ynghyd i fwynhau'r cyngerdd ac roedd gweld Alejandro Jones a'i frawd Leonardo yn rhan o'r cyngerdd yn gwneud i ni i gyd deimlo fel un teulu mawr yno. Cludwyd ni wedyn mewn bysiau i faes awyr Trevelin ac mewn 'hangar' anferth yn y fan honno cafwyd gwledd i'w chofio. Roedd Alejandro A Leonardo wedi bod yn brysur cyn y cyngerdd yn paratoi asado hyfryd i ni, roedd yn rhaid cael canu wedyn wrth gwrs a do mi aeth hi'n noson hwyr (iawn, iawn i rai).

Yn ei nodiadau ar y daith gyntaf mae John Daniel Evans yn sôn amdano ei hun yn mynd i ganol mynyddoedd yr Andes uwch ben y cwm ac mae'n dweud fel hyn: 'o, mor ardderchog oedd yr olygfa o'r fan yma, pinaclau gwynion yr Andes ddisgleirient yn yr haul, rhai i'r Gogledd, De a Gorllewin a theimlwn yn hiraethus wrth ymadael â'r olygfa' - a dyna ein profiad ninnau. Beryl Griffiths I


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý