大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Pethe Penllyn
Guto Puw Blas Penllyn ar Neuadd Dewi Sant, Caerdydd
Mehefin 2004
Ar yr ail benwythnos ym Mai trwy nifer o gyd-ddigwyddiadau digwyddodd nifer o bethau yn y Neuadd enwog yma yr oedd a wnelo nhw 芒 Phenllyn.
Ar y Nos Wener yr oedd Cyngerdd Cerddorfaol yn cael ei recordio gan y 大象传媒 ac fe'i darlledwyd ar y nos Sul canlynol. Cyngerdd arbennig am fod darn hollol newydd o gerddoriaeth yn cael ei chwarae gan Gerddorfa Genedlaethol Cymru y 大象传媒, ys dywedai y "Radio Times" a phapurau eraill "World Premiere".

Y cyfansoddwr oedd Guto Puw, mab Dan a Lona Puw, Styllen gynt. Ysbrydolwyd y darn gan gerdd gan R.S. Thomas o dan y testun "Reservoirs" ac o glywed y darn yr oedd hi'n anodd cadw boddi cwm Tryweryn o'r cof.

Cafwyd derbyniad gwresog i'r darn gan y gynulleidfa a'r Gerddorfa ac fe alwyd ac ail-alw Guto i'r llwyfan i dderbyn gwrogaeth haeddiannol. Da iawn yn wir.

Yn yr un Cyngerdd yr oedd cantorion Cymreig y 大象传媒 yn canu, c么r cymysg sylweddol ei faint ac yn fyd-enwog am ei allu i gyflwyno cerddoriaeth leisiol o bob math. Un o'r c么r yw Nia Mair Jones, Telos, Y Bala, merch hynaf Gareth a Gill Jones. Gwyddom am ddawn gerddorol y teulu yma a llongyfarchwn Nia am ennill ei lle yn y c么r.

Beth amser yn 么l yr oedd Nia yn canu yn y c么r hefyd ond wedyn bu yn byw a gweithio ym Marcelona, Sbaen. Bellach, yn 么l yng Nghaerdydd mae wedi ail-afael ac eisoes wedi teithio i Toulouse, Ffrainc, efo'r c么r i ganu Breuddwyd Gerontius gyda cherddorfa "National du Capitol" dan arweiniad Richard Hickox.

Mae Nia hefyd yn aelod o gr诺p "Vivace", deuddeg o ferched a gynrychiolodd Prydain yng Ng诺yl Gorawl De America yn Ninas Mexico dros y Pasg.

Ar y bore Sadwrn, yr oedd y Cyngerdd wedi ei anghofio a seremoni wahanol yn cymryd lle. Un o gyfres o seremon茂au graddio'r Brifysgol Agored.

Dyma'r Brifysgol di-safle, di-goleg, sy'n galluogi myfyrwyr i ail-afael yn eu hastudiaethau ar 么l dechrau gweithio neu hyd yn oed ar 么l ymddeol, a hynny trwy weithio yn eu cartrefi, gwylio rhaglenni fideo wedi'u paratoi yn arbennig ar eu cyfer, mynychu ysgol breswyl am ryw wythnos ar y tro, ac ysgrifennu traethodau a'u postio i diwtoriaid o ddarlithwyr.

Yno i dderbyn gradd BSc, gydag anrhydedd, yr oedd Ifor Alun Richards, Pemblemere, Heol Arenig , Y Bala. Mae Ifor yn fab i Vera a'r diweddar Meiron John Richards, 93 Stryd Fawr, ac wedi ymlafnio am y chwe mlynedd diwethaf ym maes Daearyddiaeth ac Astudiaethau'r Amgylchfyd.

Ar yr un pryd bu'n dilyn ei waith fel aelod o staff Banc Natwest, yn Gynghorydd, yn Faer y Bala am ddwy flynedd, ac yn weithgar yn ei gapel, gyda Chymdeithas Rhieni ac Athrawon Ysgol Bro Tegid ac amryw gymdeithasau eraill. Llongyfarchiadau mawr.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy