Felly trefnwyd ein bod yn cael swper yn Plas-yn-Dre ar nos Sadwrn, Chwefror 14eg. Teimlwyd mai dyma'r amser i wneud hyn er nad yw'r ysgol yn cau yn swyddogol tan yr haf. Roedd nifer fawr o bobl yn bresennol, yn cynrychioli'r llywodraethwyr, ardalwyr, cyn-ddisgyblion a rhieni ac athrawon achlysurol. Cafwyd gair am hanes a llwyddiant yr ysgol dros y blynyddoedd, rhannwyd nifer o atgofion melys a chafwyd cyfle i edrych ar hen luniau. Derbyniwyd cardiau gyda dymuniadau gorau a chofion, a diolchwyd i bawb a fu ynglŷn â'r ysgol mewn unrhyw ffordd. Cafwyd noson ddifyr yn hel atgofion am yr ysgol a'r holl blant a addysgwyd yno ers ei hagor ganrif yn ôl. Cyflwynwyd blodau ac anrhegion i staff presennol yr ysgol, gan gyn-ddisgyblion i ddiweddu'r noson.
|