Aeth ymlaen i gystadlu am ysgoloriaeth Bryn Terfel yn Galeri Caernarfon.
Eleni, a'r eisteddfod yn Rhuthun, hi oedd prif gyfansoddwraig yr ŵyl, am dri chyfansoddiad i'r offeryn arall y mae'n feistres arno, sef y delyn.
Perfformwraig a chyfansoddwraig, dyna Glian, - fel Grace Williams ei hun wrth gwrs, yr un sy'n rhoi ei henw i'r fedal a enillodd, a phwy a ŵyr na fydd, ryw ddydd, gyfuwch ym maes cerdd â'r gyfansoddwraig arbennig honno.
Cafodd ganmoliaeth uchel gan Eric Jones, sydd ei hun yn gyfansoddwr o fri, a'i gerddoriaeth i eiriau Waldo - 'Y Tangnefeddwr' yn ffefryn cenedl erbyn hyn.
'Darluniau' oedd teitl gwaith a enillodd iddi anrhydedd cerddorol pennaf yr eisteddfod, ac roedd ynddo dri darn.
'Llyn Celyn' yn adlewyrchu ei chefndir ac yn cynnwys elfennau traddodiadol, 'Tirlun,' cyfansoddiad y tir canol - yn dangos symud o'r traddodiadol i'r cyfoes, a 'Bwrlwm,' creadigaeth hollol fodern, a'r cyfanwaith yn dangos ôl cynllunio bwriadol a datblygiad pendant.
Mae hi wedi dod â bri i Gefnddwysarn a'r Sarnau ac ardal Penllyn, yn prysur ddringo'r ysgol gerddorol, ond ar yr un pryd yn un nad anghofiodd am y graig y naddwyd hi ohoni.
Yr oedd hi, ychydig dros bedwar mis yn ôl, yn cymryd rhan yn Eisteddfod y Llawrdyrnu ac yn canu mewn deuawd ac wythawd, mewn parti a chôr.
Wrth longyfarch Glian yn gynnes, mae'n bwysig nodi ei bod yn un sy'n sylweddoli mai dau o hanfodion mawredd mewn unrhyw faes yw gostyngeiddrwydd a pharodrwydd i gydnabod a dal i gynnal y gwreiddiau.