´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Pethe Penllyn
Stryd fawr y Bala Canolfan arian y Bala
Chwefror 2007
Mae Canolfan Arian y Bala yn bod er mwyn gwasanaethu'r cyhoedd. Mae hi wedi ei lleoli yn adeilad y cyngor ar stryd fawr y Bala - yr ystafell ar y dde wedi i chi fynd i mewn drwy'r drws.
Mae'n lleoliad hwylus dros ben a chanolfan bwysig dros ben.

Yno gallwch dalu eich trethi, talu rhenti i'r cyngor, yno y cedwir goriadau tai cyngor gwag ar gyfer adeiladwyr, yno y cewch docyn teithio rhad i fws a thrên, yno yn wir y gallwch drin a thrafod unrhyw fater yn ymwneud â'r cyngor sir. Adnodd holl bwysig i drigolion y Bala a Phenllyn, ac y mae'n cael ei defnyddio'n helaeth.

Ond mae'r ganolfan hon mewn peryg. Mae yna fwriad i'w chau, a bydd ei dyfodol yn cael ei drafod yn fuan - ar y pedwerydd ar hugain o'r mis hwn.

Os bydd yn cau, dyna un peth arall yn diflannu o gefn gwlad yn enw canoli ac arbed arian ond be allwn ni ei wneud? Pedwar peth o leia:

1. Mynd i'r ganolfan ar unwaith i arwyddo'r ddeiseb sydd yno yn galw am iddi gael ei chadw yn agored.

2. Ysgrifennu at y prif weithredwr i wrthwynebu'r bwriad. Dyma'i gyfeiriad: Harri Thomas, Prif Weithredwr Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Sir, Caernarfon LL55 1SH.

3. Cysylltu â chynghorwyr sir yr ardal, sef Elwyn Edwards, Dylan Edwards a Dafydd Roberts.

4. Cysylltu â'r aelod seneddol, Elfyn Llwyd ac aelod y cynulliad Dafydd Elis Tomos (Swyddfa Plaid Cymru, Dolgellau) a gofyn iddyn nhw ymladd i wrthwynebu'r bwriad.

Y mae'r amser vn brin - gweithredwch ar unwaith.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý