´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Pethe Penllyn
Llun silff ben tan Fy silff ben tân
Awst/Medi 2008

Gan Alwena Williams

Y drwg efo'r fath silff ydi bod rhaid rhoi rhywbeth arni hi.

Does yna fawr ddim byd mwy llwm na silff hollol wag uwchben y lle tan.

Ers talwm roedd yna bedair silff ben tân yn y tŷ hwn - dwy i lawr a dwy yn y llofftydd, a thipyn go lew o ffigarins arnyn nhw.

Er bod yr holl danau agored oedd mor angenrheidiol gynt wedi hen fynd, hwyrach, wrth i brisia tanwydd godi bob dydd, y gwelwn ail agor y gratiau a phawb yn gorfod hel coed tan eto.

Rydach chi wedi casglu erbyn hyn nad oes gen i drysorau teuluol i'w harddangos ar yr unig silff sydd ar ôl.

Sut bynnag am hynny, y diwrnod o'r blaen mi dderbyniais lythyr hynod o garedig drwy'r post.

Cloc

Dyma'r neges ynddo: petawn i'n prynu gwerth hyn-a-hyn o nwyddau o gatalog y cwmni, mi gawn i 'gloc mamplis' hardd am bris gostyngol, sef chwe phunt namyn ceiniog.

Twt lol, meddech chi, dydi 0 fawr o beth felly. Dyna feddyliais innau hefyd nes i mi weld y llun lliw o'r cloc porslen a'r daflen esboniadol. Mae blodau bach pinc a glas drosto i gyd a rhimyn o aur ar hyd ei ymylon.

Pwysleisir hefyd y byddai hwn yn gweddnewid fy nghartref cyffredin i fod yn un moethus. Ac, i goroni'r cyfan, dywedir fod y cloc mor ddrudfawr yr olwg fel y gweddai i'r dim i Balas Buckingham.

Ar fy ngwir! Wel dyna beth ydi taro deuddeg.

Wedi astudio'r llun a'r geiriau dethol, bu bron i mi ildio i'r demtasiwn, yn enwedig o ddeall y cawn eistedd mewn steil yn gwylio'r bysedd cain yn symud ac yn gwrando ar y tician persain.

Doedd dim sôn fod morwyn yn dod yn rhan o'r fargen!

Ar ben hynny, mi fyddwn yn destun edmygedd a hyd yn oed eiddigedd fy nheulu, fy ffrindiau a'm cymdogion oll.

Dringo

Hyd yn hyn, rydw i'n dal heb ildio. Prun bynnag, ni fyddai oes y dywededig gloc meindlws ddim yn hir yn tŷ ni. Heblaw y byddai'n rhy rodresgar o'r hanner i'n cartref gwerinol, a gweriniaethol o ran hynny, byddai Huw Ifan, yr ŵyr dwyflwydd oed, wedi dringo mewn chwinciad ar ben y giard tân, ymestyn ei ddwylo amdano ac yna'i ollwng yn deilchion ar garreg yr aelwyd.

Eitha' gwaith a'i nain hefyd, ddyweda' i, am fod mor wirion yn ystyried prynu'r fath beth.

Byddai'n braf gallu dweud bod darn o femrwn neu gwilsyn o eiddo Bedo Aeddren ar fy silff ben tân, oherwydd roedd o'n byw yma yn nechrau'r unfed ganrif ar bymtheg ac yn dipyn o fardd.

Gwaetha'r modd, er nad oes dim byd o'r fath wedi goroesi, y mae rhai o'i gywyddau am serch a natur ar gof a chadw.

O'r diwedd dyma ni'n dod i'r presennol, i'r byd go iawn ac at y silff.

Esgid fechan

Wil biau'r ochr dde ac yn fanno mae llestr pren cul yn dal beiros.

Tu ôl i hwn mae ambell fil eisiau ei dalu a darnau blêr o bapur ac arnyn nhw linellau, cwpledi neu englynion heb eu gorffen.

Fi biau'r ochr chwith ac yn fanno mae cath bren wedi colli blaen ei chynffon yn dal nodiadau atgoffa yn eu lle er mwyn cadw rhyw fath o drefn arna' i.

Ar y canol mae tri pheth wedi eu gwneud o bres, sef tylluan, desgil i ddal dipiau papur a goriad y gwres canolog, ac esgid fechan hollol ddifudd sy'n dod a lwc dda yn ôl rhyw hen goel.

Weithiau caiff dwy fabwshca o Rwsia ddod am dro yno hefyd, na, nid dwy ond deg i fod yn fanwl, gan fod pump ym mhob dol a'r cyfan yn ffitio i'w gilydd yn daclus.

Does dim byd brolgar na bregus chwaith ynghylch y rhain. Maen nhw'n edrych yn ddigon cartrefol yno, a phlant bach, a phlant mawr o ran hynny hefyd, wrth eu bodd yn chwarae efo nhw. Alwena Williams


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý