Pwy oedd ein haelodau seneddol ni o tua 1850 tybed? Pryd gadawyd i etholwyr gael pleidlais gudd? I bwy oedd y Meistr Tir yn annog ei denantiaid i fotio ar 么l cael y bleidlais gudd? Pryd ddaru Penllyn anfon aelod i D欧 Cyffredin oedd ddim mwy na mab i denant fferm - y cyntaf ym Mhrydain? Pryd ddaru'r Rhyddfrydwyr ddechrau dod i rym? Ac wedyn pryd daeth y Blaid Lafur i fod - ac wedyn Plaid Cymru? Pwy oedd y personoliaethau, a phwy oedd fwyaf tu cefn iddyn nhw? Pwy oedd rhai o'r ymgeiswyr aflwyddiannus a ddaeth yn eu tro yn aelodau dros rannau eraill o'r wlad? Beth wnaethom nhw ar 么l cyrraedd y Senedd? Ar lefel Llywodraeth Leol bu yma Gynghorau Plwy, Cyngor Tref y Bala, Cyngor Gwledig Penllyn, Cyngor Sir Meirionnydd i gyd yn gwarchod ein buddiannau cyn i rhyw AI gwyrthiol genhedlu Gwynedd! Pam bod hi mor ofnadwy o anodd i gael Cynghorwyr ac Etholiadau heddiw pan oedd cymaint o fri yn dilyn cael bod yn Gynghorydd 'slawer dydd? Oes yna anerchiadau etholiadol yn dal ar gael, efo'r ymgeiswyr yn honni sut y gwelent hwy y dyfodol? Mae'r canlyniadau si诺r o fod ar gof a chadw yn yr Archifdy. Sut y bu i'r Bala gael Maer? Ydy hynny yn mynd yn 么l i Siartr y Dref? Dyna ddigon o gwestiynau. Pwy fedr gynnig ateb - unrhyw syniad neu friwsionyn o wybodaeth, cyflwynwch hwy i Peris Jones Evans, Goronwy Prys Owen, neu Iwan Bryn Williams.
|