Hyfryd yw gweld un o fechgyn yr ardal yn cael y cyfrifoldeb mawr yma. Magwyd Dewi yn Nantycyrtiau, Cwmtirmynach, a chafodd fod yn aelod o Ysgol Ramadeg y Bechgyn am gyfnod cyn i Ysgol y Berwyn agor yn 1964. Bu'n amlwg mewn cynyrchiadau drama tra yn ddisgybl gan chwarae rhan Macbeth ar un achlysur cofiadwy iawn. Aeth ymlaen i Goleg Prifysgol Gogledd Cynru, Bangor, a graddio yn y Gymraeg ond daeth i sylw, hefyd, ym myd y bêl hirgron. Bu'n athro am nifer o flynyddoedd yn Ysgol Eifionydd, Porthmadog, cyn cael ei ddewis i olynu'r diweddar Trefor Edwards fel Pennaeth Adran y Gymraeg yn Ysgol y Berwyn yn 1984. Ers mis Mai y llynedd bu'n ysgwyddo gwaith y Prifathro yn absenoldeb Mr Geraint Owain. Dymunwn yn dda iawn iddo ef wrth arwain Ysgol y Berwyn i'r dyfodol gan obeithio y gallwn fel rhieni, cyn-ddisgyblion, athrawon a phlant ddangos ein cefnogaeth iddo a'n hymddiriedaeth ynddo wrth y gwaith hollol allweddol sydd ganddo i'w gyflawni mewn cyfnod na fu ei debyg o'r blaen yn addysgol a chymdeithasol yn ein bro.
|