Bellach cafwyd adeilad newydd yn ystod y ddwy flynedd diwethaf. Yr hyn sy'n unigryw yw fod penderfyniad wedi ei wneud i gadw'r ysgol ar yr un safle - yng nghefn gwlad M么n. Mae Ffrwd Win yn union ar ffin plwyfion Llanfaethlu a Llanfwrog a phenderfynwyd fod gormod i'w golli drwy symud yr adeilad i un newydd a fuasai'n agosach i'r pentref. Mae gan addysg yng nghanol cyfoeth amgylchfyd mor naturiol a Ffrwd Win gymaint i'w gynnig i blant yr ardal. Yn ystod y ddwy flynedd diwethaf yma cafwyd tri dosbarth newydd ac yna yn yr ail ran o'r adnewyddiad cafwyd ail-wampio'r hen adeilad gwreiddiol i wneud neuadd, toiledau a chegin safon uchaf. Ffrwd Win oedd yr ysgol olaf ym M么n lle roedd y gegin tu allan i'r prif adeilad fel bod angen troli i ddod a'r cinio i'r dosbarthiadau. Mae'r holl adeilad nawr yn ddelfrydol dros ben ac mae'r pensaerniaeth newydd wedi sicrhau fod yr hen ymdeimlad traddodiadol yn parhau. Roedd y neuadd newydd yn orlawn o rieni, cyfeillion a gwahoddedigion. Cafwyd sgyrsiau addas iawn i ddathlu'r achlysur gan Mrs Gwenan Beatson, Is-gadeirydd y Corff Rheolaethol, y Cynghorydd Bessie Bums, Cadeirydd Cyngor Ynys M么n a Mr Richard Parry Jones, Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden. Dywedodd Mr Arthur James Huws, y Pennaeth: "Mae'n galondid mawr cael gwybod bydd plant yr ardal yma yn derbyn eu haddysg mewn amgylchfyd hynod unigryw a hynny r诺an mewn adeilad gorau bosib. Mae'n galondid i bawb fod yr Awdurdod yn buddsoddi cymaint o adnoddau mewn ysgol wledig. Gobeithio bydd i'r ardal fanteisio i'r eithaf o'r ymroddiad.yma." Cafwyd gwledd o gyflwyniad gan y plant. Portreadwyd y blynyddoedd o 1879 i 2004 mewn darluniau ar lafar ac ar g芒n gan blant Blwyddyn 3, 4, 5 a 6. Fel sawl ardal arall Seisnigeiddiwyd y fro hon, ond Cymraeg rhugl a glywyd gan bob plentyn a gymerodd ran. Pwysleisiodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden bwysigrwydd yr Ysgol Fach leol a siarsodd ar yr ardalwyr i sicrhau canrif a chwarter arall o ffrydio addysg yn Ffrwd Win.
|