Fe'i croesawyd i'r cyfarfod
gan y Parchedig Ddr Dafydd Wyn Wiliam, Cyfarwyddwr y
Gymdeithas.
Cafwyd awr hyfryd yng nghwmni'r siaradwr,
yntau'n un o fechgyn y tir yn y bon; gallasai fod wedi traethu
ymhellach ar bwnc a oedd mor agos at ei galon, a chan fod nifer
yn y gynulleidfa yn ymwneud ag amaethyddiaeth, neu o gefndir
amaethyddol, hawdd fuasai i'r cyfan fod wedi datblygu'n
drafodaeth faith.
Dichon mai tamaid danteithiol i aros pryd a
gafwyd oherwydd iddo awgrymu'n gynnil mai ei fwriad, efallai,
fydd cyhoeddi cyfrol ar y testun.
Disgwyliwn yn eiddgar amdani fel y gallwn, yng ngeiriau'r awdur: "ei bachu hi pan ddaw hi o'r wasg".
Dymuniadau gorau iddo a phob hwyl ar y gwaith.
Y Cyfarwyddwr a Mr Gwyn Jones, Dwyran, a ddiolchodd iddo ar y diwedd.
Gwerthfawrogwyd, hefyd, groeso Cyfeillion y Sefydliad, hwythau wedi darparu'n helaeth ar ein cyfer.
Hyfryd oedd gweld yr hen adeilad nobl ar 么l ei adnewyddu ac mewn cyflwr da er parch i'r sawl a'i cododd ac er budd y cyhoedd yn y dyfodol.
Dr Meirion Llewelyn
|