Bu Karen Peacock a chriw camera o Adran Ffeil o'r rhaglen Planed Plant S4C draw i Ffrwd Win.Bu iddynt ffilmio'r plant rheiny oedd yn gwisgo sbectol a chael cyfweliad gyda hwynt fel rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth y RNIB. Dangoswyd y cyfweliadau ar y rhaglen Uned 5 ymhen rhyw ddiwrnod neu ddau wedyn. Cafodd pawb fwynhad yn cadw golwg ar brysurdeb a thrafferth criw ffilmio wrth eu gwaith. Cafodd pawb brofiad o Gelli Gyffwrdd, Y Felinheli ac mi ael y blynyddoedd hynaf draw i Theatr Gwynedd i gael golwg 芒 chynhyrchiad Cwmni Arad Goch o Twm a Mati Tat a'r Ddoli. Roedd y plant yn gyfarwydd a gwaith yr awdur, Gwyn Morgan o'r herwydd llyfr o'i eiddo bu iddynt gyflwyno yn Theatr y Werin, Aberystwyth yn y rownd Genedlaethol o Gystadleuaeth Cyngor Llyfrau Cymru. Roedd t卯m Bl 5 a 6 Ysgol Ffrwd Win yn cynrychioli Ynys M么n ac er na ddaethant i'r brig eleni roedd eu perfformiad yn glod mawr i'r ymroddiad i'r gwaith. Bu iddynt berfformio'r hysbys i'r llyfr Llew Lletchwith i'r rhieni a chyfeillion yr ysgol ar ddechrau'r Noson Agored yn ddiweddar. Cafodd plant Bl 3 a 4 fwynhad wrth weld cynhyrchiad Cwmni Theatr y Fr芒n Wen o Penci fel rhan o'r Addysg Bersonol a Chymdeithasol ac mi aeth y plant hynaf draw i Blas Arthur, Llangefni i gymryd rhan yn niwrnod Aml-weithgareddau Ysgolion Cynradd. Cafodd y plant hefyd flas ar chwarae tenis pan ddaeth Swyddog Datblygu Tenis Ynys M么n draw am hanner diwrnod i ddatblygu sgiliau'r g锚m. Rydym yn ddiolchgar i Mrs Vera Hughes, Mrs Julie Jones a a Mr Steven Rickards am gymryd gofal am Gampau'r Ddraig yn ystod y tymor pan ganolbwyntiwyd am ddeg sesiwn o athletau. Daethpwyd 芒'r chwaraeon i ben yn ein modd arferol pan ddaeth rhieni a ffrindiau draw i'r diwrnod Mabolgampau ac fe enillwyd y Darian eleni gan Ty Cefni a'r Victor a Vitrix Lodorum oedd Iwan Roberts a Naomi Jones. Cynhaliwyd ein taith gerdded flynyddol pan aeth holl ddisgyblion yr ysgol draw i gerdded Llwybr Arfordirol Ynys M么n o Fferm Penrhyn draw i Borth Swtan. Cafwyd diwrnod hyfryd ac addysgol dros ben a phawb yn brysur yn astudio'r amgylchfyd er mwyn llenwi eu holiaduron yn gywir. Daeth y plant lleiaf a'u taith i ben ar draeth Porth Tywyn Hir tra cafodd y plant hynaf eu cinio ar draeth hyfryd Trefadog. Bu rhaid aelodau hynaf yr ysgol draw yn cymryd rhan yng ngwasanaeth Cadeirydd Cyngor Ynys M么n yng Nghapel Bethel Hen, Llanrhuddlad. Gan fod y Cadeirydd newydd yn aelod teyrngar o'r Corff Rheoli Ffrwd Win, mae'r holl ysgol yn dymuno'n dda i'r Cynghorydd Bessie Burns ar ei blwyddyn yn y gadair. Mae pawb bellach yn edrych ymlaen tuag at wyliau'r haf gan obeithio bydd y tywydd yn plesio pawb. Mae'r ail ran o'r cynllun i adnewyddu adeilad Ffrwd Win i ddechrau yn ystod yr Haf pan fydd cegin, neuadd a thoiledau newydd yn cael eu gwireddu. Disgwylir i'r gwaith barhau drwy dymor yr Hydref.
|