Credais mai'r clwt o dir o amgylch yr hen garej sydd yno oedd ar werth.
Bum yn symio a dod i'r penderfyniad fod y lle rhy agos at y trenau i mi godi tŷ yno a chymerai ormod o amser i mi ddygymod â'r sŵn i allu cysgu'n dawel!
Ar yr un pryd gwn y buasai'r llecyn wrth fodd y Parchedig Gareth Parry, cyn gurad Caergybi. Cafodd ef ei fagu heb fod nepell o'r rheilffordd ym Mhwllheli ac yn fychan iawn byddai'n sleifio at y dynion yn y Signal Box. Does ryfedd ei fod mor weithgar yn adfer rhai o hen reilffyrdd Cymru.
Ychydig yn ôl dyma fi'n cael llythyr gan Mr Bob Vale a beth oedd ynddo ond llun yr hen garej. Roedd wedi ei dynnu gan werthwr tai.
Hefyd disgrifiad o'r clwt; lle hwylus mewn pentref a hawl wedi ei roi i chwalu'r hen garej i adeiladu tŷ yno. Y cyfan i'w gael petai rhywun yn cynnig dros £50,000 amdano. Wedi darllen llythyr Mr Vale deallais nad unrhyw garej oedd hon, ond garej gyda hanes iddi. Pwy ar wyneb y ddaear fuasai'n credu fod yna 'hanes' i'r fath le.
Dywedodd rywbeth tebyg pan oeddwn ar fy ngwyliau yn Llyn yn ystod yr haf.
Ymwelais â hen ffrindiau a'r wraig yn mynd a fi at garej ar gwr cae wrth dalcen y tŷ.
Gwyddai'r wraig fy mod wedi ysgrifennu am gapel bach sinc a gafodd ei godi gan ffermwr o'r ardal i gynnal Ysgol Sul ynddo, a hynny'n ystod llanw diwygiad 1904.
Gellwch ddyfalu fy llawenydd pan ddywedodd mai'r garej oedd y capel bach sinc. Cefais wefr wrth gerdded i mewn iddi yn gwybod mai dyna'r fan lle dysgodd fy mam yr ABC. Roedd y wraig ar fudo at ei mab, ac erbyn hyn rwy'n deall iddi werthu ei chartref i bobl ddieithr. Yn sicr bydd can mlynedd o hanes yn mynd i ebargofiant mewn ychydig eiliadau yng nghyfrangau ryw JCB a neb mwyach yn gwybod am fodolaeth 'Capel Sinc Rhosddu'.
Petai rhywun yn gofyn i mi pa gyfnod yn hanes Prydain yr hoffwn i fyw ynddo fy ateb yn syth fyddai blynyddoedd ar ôl Rhyfel 1914-18, hynny yw, ugeiniau'r ganrif ddiwethaf. Clywais ddigon amdanynt gan fy nhad. Roedd y wyrth o gael dychwelyd adre o ffosydd Ffrainc yn gwneud pob munud yn werthfawr i
wŷr ifanc y dyddiau hynny a'r awydd i ail ddechrau byw mewn byd gwell yr angerddol. Dyna'r cyfnod daeth Edmund Vale a'i ffrindiau a fu gydag ef yr Ffrainc i Fôn. Roeddynt ar ddechrau busnes, a hynny ym Miwmares.
Dyma le delfrydol i brynu a gwerthu pysgod. Yna, yn ystod yr haf cyntaf yno, ac arian yr llifo o bob cyfeiriad dechreuodd ymwelwyr o blith y dosbarth gweithiol gyrraedd Rhosneigr a Threarddur.
Sylweddolodd y criw fod Fali yn ganolog iddynt werthu eu pysgod i'r ddau le. Ar y pryd roedd darn o dir wrth y rheilffordd ar werth, a dyma hwy'n ei brynu. Gan fod y rhyfel wedi ei hymladd fel na byddai yna ryfela mwyach roedd y gwersyll milwrol yng Nghaergybi yn cael ei dynnu i lawr.
I ffwrdd â hwy yno a phrynu un o'r cabanau am £30. Bu'n raid iddynt wneud sawl siwrnai i'w gludo i Fali. Yno y mae fel garej hyd heddiw.