Maent am ddau ddiwrnod, sef ar y nos Wener, y locals, ac ar y Sadwrn, yr 'hogiau mawr'. Digon o hwyl a chystadlu brwd. Does dim gwobrau mawr ond mae'r Pwyllgor yn gofalu fod pob ci sy'n cystadlu yn cael gwobr fach, ennill neu beidio. Roedd gan Guto'r Hafod yn ei dyb o world beater yn ei border collie ond y ffaith amdani oedd fod ei Guto yn Heinz 57, dipyn bach o bob dim! Pan ddechreuodd yn y gystadleuaeth fe welodd y ci rywbeth ar y mynydd ac i ffwrdd a fo heb wrando ar unrhyw weiddi na chwiban.
Pan oeddwn yn y Coleg roedden ar bob bore Sul yn cael coffi ar y teras gyda'r Dirprwy Brifathro, W. H. Gauld (Wilkie), brodor o Kirkcudbright yn yr Alban. Dim ond ryw ddwsin ohonom oedd yno oherwydd roeddem yn byw rhy bell i fynd adre. Roedd y mwyafrif ohonom o'r wlad ac ar y bore SuI yma y pwnc dan sylw oedd cŵn defaid. Mynnai W. H. doedd dim ci i'w gymharu a'r border collie. Broliodd y ci i'r cymylau ac fel petasai eisiau profi'r pwynt dywedodd hanesyn a gafodd gan ei frawd oedd yn ffarmwr yn Kirkcudbright.
Yn gymydog i'w frawd roedd ffarmwr gyda collie oedd yn dair blynedd oed o'r enw Fan, ci deallus ac annwyl dros ben. Fe aeth y ffermwr i fferm cyfagos, ond dros y bryn fel petai, i brynu defaid. Hoffai beth welodd ac yn fuan iawn fe gytunwyd ar y pris. Dyma'r ffarmwr yn anfon Fan gyda'r defaid gyda'r bwriad o'i dal i fynd ar ôl selio'r fargen yn y tŷ tafarn.
Diwedd y gân oedd i un wisgi fynd yn ddau ac fe aeth yr amser ymlaen. Pan aeth y ffarmwr allan doedd dim golwg o Fan na'r defaid. Gan fod Fan yn gi mor dda meddyliodd y ffarmwr fod Fan wedi mynd dros y bryn am adre. Erbyn cyrraedd buarth y fferm fe welodd nad oedd y defaid na Fan yno. Methai'n lân a deall beth oedd wedi digwydd. Dyma benderfynu mynd a'r mab gyda Fan i chwilio ond fel yr oeddynt yn cychwyn dyma Fan yn dod a'r praidd dros y bryn. Wrth nesau at y buarth, sylwyd fod ganddi rywbeth yn ei cheg. Fe aeth yn syth i'r beudy ar ôl corlannu'r defaid ac i ffwrdd â hi. Toc, dyma hi'n ôl gyda rhywbeth bach yn ei cheg ac yn syth am y beudy. Yna ffwrdd â hi wedyn ac ymhen dim roedd yn ôl gyda rywbeth bach eto yn ei cheg. Pan aeth y ffarmwr a'r mab i'r beudy, yn y gornel roedd Fan a'i theulu bach.
Yr unig esboniad o beth oedd wedi digwydd oedd bod y genedigaethau wedi cymryd lle ar y bryn a bod Fan wedi arafu a stopio'r praidd. Mynnai W. H. mai hanes gwir oedd a dyna beth oedd yn gwneud y collie yn unigryw ym myd cŵn defaid. Roedd rhywbeth yn y cyfansoddiad oedd yn gwneud ffyddlondeb a theyrngarwch i'w meistri yn enwedig pan ddaw yn fater o ffyddlondeb gyda dyletswydd yn oruwch i bob dim arall yn ei gwaith. Yn sicr mae gan ddyn lawer i'w ddysgu oddi wrth y border collie.
|