Roedd sawl proffwyd tywydd ym mhlith y pererinion yn darogan hindda cyn y byddem ym Mhorthmadog. Roedd rhai wedi gweld rhyw dinau Gwyddelod rhwng y cymylau.
Fodd bynnag, cawsom orlif o law ym Mhorthmadog ond chwalodd y pererinion.
Aeth llawer i Westy'r Wylan ym Mhorthmadog i fwynhau brecwast mawr, mawr. Golygfa nas anghofiaf oedd gweld y saim yn diferru oddi ar weflau'r pererinion.
Wedi dringo i Ddinas Mawddwy anelwyd ni am Bont Robert ac i Gapel John Hughes.
Ef a Ruth Evans, ei briod a ddiogelodd i'r genedl emynau a llythyrau Ann Griffiths - mae'n anodd meddwl am amgenach cymwynas yn wir.
Gwahoddwyd ni i hen gapel ym Mhont Robert gan Nia Rhosier sy'n Guradwraig yr Amgueddfa yno. Rhoes sgwrs i ni ar hanes y capel a'r rhai a fu'n gysylltiedig a'r lle.
Cyfeiriodd Nia at y drws bychan yn nhalcen yr hen gapel. Pan oedd John Hughes yn rhy wael i godi fe ddeuid a'i wely at y drws bach agored fel y gallai bregethu i'r bobl. Mae neges yn fana'n si诺r gen i!!
Cyflwynodd Emlyn Richards lun gopi o Drwydded Bregethu Dolwar fach yn 1803 rhyw ddwy flynedd cyn marw Ann Griffiths.
Canwyd un o emynau John Hughes cyn gadael yr hen gapel - 'O anfon di yr Ysbryd Glan' - emyn a pheth o staen y diwygiad arn.
Daeth Iona o Engedi at yr organ ac er na fu'n eistedd wrthi o'r blaen fe'i handlodd hi'n wych. Rhoes Emlyn Roberts o Landdeusant arweiniad i'r canu. Rhoes Arthur Roberts ddwys weddi cyn gadael.
Gadawsom Bont Robert am Ddolanog a llenwi Capel Coffa Ann Griffiths. Yn rhyfedd iawn fu yma fawr o gof a chofnod am farwolaeth Ann Griffiths am drigain mlynedd wedi ei marw.
Ym mis Awst 1864 caed cyfarfod i ddadorchuddio cofgolofn hardd iddi ym Mynwent Llanfihangel yng Ngwynfa.
Cawsom un o emynau mwyaf poblogaidd Ann Griffiths yn Nalanog - 'Wele'n sefyll rhwng y Myrtwydd'. Cyhoeddwyd y fendith gan Dafydd Parry, Ynys Bach.
Ar ein ffordd adref bu i ni bicio i fuarth Dolwar bach yn y pant o s诺n ac o olwg y byd - lle iawn i'r diwygiad Methodistiaid gydio.
Aeth y ddau fws dros y Berwyn ac i'r Bala. Pe bae'r afradlon wedi dod adra fyddai yna ddim gwell darpariaeth. Ar fy ngwir roedd hi fel cinio dyrnu hen ffasiwn. Daethom adra'n ddihangol a di-anaf.
Tyda ni'n ddyledus i Cledwyn y fath amynedd a'r fath ofal ac yn enjoio - diolch yn fawr Cledwyn a'r un diolch i Huw ac i Gwynfor - wedi'r cwbl Gwynfor pia'r bws.
Wrth ddarllen hyn o lith gobeithio y bydd amryw ohonoch yn eidfar na fuasech wedi dod efo ni - wel dwad y tro nesaf.