Yr oedd hi'n anodd iawn i greadur busneslyd fel y fi ffeindio beth oedd yn digwydd yno gan y goedwig alwminaidd. Ond nid rhywbeth a berthyn i'n hoes ni ydi'r rhain. Fe gofnoda William Bwcle yn ei Ddyddiadur am 6 Mehefin, 1737 - Today Henry Jones of Bwlch erected scaffolds about the steeple of Llanvechell, in order to raise and repair the cupola and point that and the Tower. Does dim newydd dan y s锚r! Ar wah芒n i godi a thrwsio'r gromen fe fanteisiwyd ar y cyfle i bwyntio'r twr. Dyma air diddorol yw pwintio ac iddo amryw ystyron. Mi fydda nain yn arfer dweud, "Mi fydd raid imi gael bagiad o 'Indian Meal' i bwyntio mochyn". Yr un gair yn hollol a'r ferf gan William Bwcle to point, a olyga llenwi tyllau rhwng y cerrig. Yn Llyn ac Eifionydd yn unig y defnyddir y gair i olygu rhoi cig rhwng esgyrn. Mi sonia Elin Griffith, Bronllwyd am bwyntio gwydda cyn 'Dolig efo moron a cheirch. Sylwer eto, ar 8 Mehefin 1737 fe gofnoda William Bwcle - Today the New Vane or Weather Cock was set up on Llanfechell Spire... Yr oedd Ceiliog y Gwynt yn bwysig iawn yn y ddeunawfed ganrif. Fe gyfnoda Bwcle gyfeiriad y gwynt yn ddyddiol. Doedd Michael Fish na Si芒n Lloyd wedi'u geni bryd hynny! Pan ddiflannodd y sgaffaldiau tua'r Glanmai fe ymddangosodd Llan-Mechell yn ei gynau gwynion. Clywais s么n am wyngalchu beddau a chofiais am dyddynwyr llethrau Mynydd y Rhiw yn Llyn yn gwyngalchu bythynnod yn rhan o ben-blwydd y cythraul Spring Clean. Cofiwn fod gwyn-galchu yn orchwyl blynyddol! Emlyn Richards
|