´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Rhwyd
TÅ· Lantern TÅ· Lantern
Tachwedd 2009
Ceir yr enw 'Tyn Lantern' ar fap yn dangos plan Tref a Phorthladd Caergybi 1846, ynghyd a chynllun arfaethedig o'r Package and Refuge Harbour yr un flwyddyn.

Cynhwysir copi yng nghyfrol ddiddorol David Lloyd Hughes a D. M. Williams, sef Holyhead - The Story of a Port (Holyhead 1967), tt. 88-89.

Safai Tŷ Lantern ar y llethrau y tu ôl, ac uwch i fyny na'r Doc Bach (Government Graving Dock gynt), sef pen draw y lanfa bysgod heddiw.

Yr oedd un talcen i'r tŷ yn wynebu'r môr rhwng Ynys Rug a'r pier, neu'r lanfa ddeheuol (South Pier). Yn y gwyll arferai perchennog y tyddyn oleuo lamp olew, a'i hongian yn ffenestr y llofft a oedd a'i thalcen tua'r môr.

Dywedir bod golau'r lamp yn gymorth i'r hen longau hwyliau lanio yn y nos.

Wrth iddynt gadw'n gyson mewn lein a'r golau, haws oedd iddynt hwylio i'r porthladd.

Cyfeirir at y lle weithiau fel math o oleudy bach cynnar y dref; yn sicr roedd yno olau cyn codi goleudy ym mhen draw'r morglawdd mawr, er bod goleudy ger Ynys Halen ac ar Lanfa'r Morlys.

Fel yna, meddir, y cafodd tyddyn TÅ· Lantern ei enw.

Fe'i dymchwelwyd yn 2001.

Diolch i Mr Gareth Williams, Cae Braenar am y llun a'r hanes.

Meirion Llewelyn Williams


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý