Ar yr arfordir ger
Penmaen-mawr rhedai'r rheilffordd o Gaergybi i Gyffordd Llandudno yn
gyfochrog bron 芒'r mor gyda'r cledrau'n gorffwyso ar fur enfawr a'i sylfaen ar ymyl y traeth.
Ond y noson honno roedd nerth y tonnau'n ormod hyd yn oed i gadernid yr adeiladwaith.
Gyda'r m么r yn
anterth ei nerth golchwyd ymaith y mur am ganllath gan adael y cledrau heb ddim i'w cynnal.
Roedd tr锚n nwyddau ar ei ffordd o Fanceinion i Gaergybi; injan stem yn tynnu ugain o wagenni llwythog.
Tua un ar ddeg o'r gloch yr hwyr cyrhaeddodd honno yn nhywyllwch y nos.
Plymiodd yr injan ar ei phen i'r mor gan hyrddio un ar ddeg o wagenni i'w chanlyn.
Lladdwyd Edward Evans, y gyrrwr ac Owen Jones, y taniwr mewn amrantiad, y ddau o Gaergybi.
Trwy ryw wyrth arhosodd gweddill y wagenni ar y cledrau, yn cynnwys wagen y
gwyliwr y tu 么l.
Yn y wagen olaf honno yr oedd dau arall o Gaergybi, sef Huw Charles, y
gwyliwr a'i gyfaill Thomas Roberts; buont yn ffodus cael dihangfa o safn angau.
Er eu bod mewn dychryn, meddir, sylweddolodd y gwyliwr fod yna dr锚n arall ar ei ffordd o Gaergybi i Lerpwl yn cludo teithwyr a nwyddau a'i bod hi ar fin cyrraedd Penmaen-bach.
Rhedodd Roberts ar hyd y lein i'w chyfarfod a rhywsut, gyda chymorth lamp goch efallai, llwyddodd i'w hatal.
Yn dilyn hynny hysbyswyd gorsafoedd
Conwy a Phenmaen-mawr o'r perygl, ac yn fuan cafwyd cynhorthwy.
Yn 么l adroddiad yr arbenigwyr roedd y m么r wedi symud holl sylfaen y rheilffordd mewn byr amser, oherwydd roedd tr锚n arall flaenorol wedi trafeilio ar hyd y cledrau rai munudau ynghynt am chwarter i un ar ddeg o'r gloch y noson honno, a thua ugain munud yn ddiweddarach digwyddodd y drychineb.
Cafwyd, hefyd, bod oriawr y gyrrwr wedi stopio am bum munud wedi un ar ddeg o'r gloch, tua'r adeg y digwyddodd y ddamwain mae'n debyg.
Drannoeth darganfuwyd corff Edward Evans ar y tywod rhyw hanner milltir o'r lle; yr oedd yn 46 oed a chanddo briod ac wyth plentyn.
Roedd ei gyfaill Owen Jones, y taniwr, yn 26 oed; gadawodd yntau weddw a dau o blant ifainc.
Deuai'r naill o Ffordd Llundain a'r llall o Stryd y Bedyddwyr, Caergybi. Roeddynt yn aelodau yng nghapel Tabernacl, addoldy'r Annibynwyr yn y dref.
Yr oedd tad Owen Jones wedi treulio blynyddoedd yn beiriannydd gyda chwmni'r rheilffordd, a bu'r anffawd o golli ei fab yn ergyd drom iddo.
Crwydrai'n 么l ac ymlaen, meddir, ar hyd strydoedd y dref gan ddisgwyl clywed rhyw newydd bod corff ei fab wedi
ei ddarganfod, ond yn ofer.
Trist o drychineb oedd hon.
Meirion Llewelyn.