大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Rhwyd
North Stack Arlunydd Mynydd T诺r
Hydref
Ar 么l byw yn ne Lloegr am y rhan fwyaf o fy oes, deuthum i fyw i Fon ugain mlynedd yn 么l, mewn adeilad anghysbell a fu unwaith yn Orsaf Rybuddion Niwl.
Nid oes unrhyw ffordd i'r Ynys Arw, ar ymyl clogwyn ar eithafion gogledd-orllewin Mynydd Twr ger Caergybi. Dim prif gyflenwad d诺r, dim gwasanaeth post na chasglu sbwriel, ond mae'r anfanteision hyn bellach ar 么l dau ddegawd yn ymddangos yn bris bychan i'w dalu am yr heddwch a'r harddwch sydd o'm cwmpas ymhobman.

Roedd yr angen i dorri fy hun yn rhydd o'r brif ffrwd yn deillio o'r galar o golli fy ng诺r a'm mab o fewn pymtheng mis i'w gilydd, lawn cymaint ag o'r ysfa i gael hyd i le lle gallwn ryddhau fy hun o s诺n, a cheisio magu nerth i ddechrau eto, cael hyd i lwybr technegol ar gyfer fy mhaentio.

Cymerodd tua thair blynedd cyn fy mod i'n gallu cychwyn symud ymlaen o sefyll statig, lle roeddwn i'n cael fy nal yn 么l gan y golled a'r atgofion, ond wrth i'r dyddiau, wythnosau a'r misoedd fynd heibio a deffro bob bore i s诺n y gwynt a'r gwylanod, rhythmau'r m么r yn newid yn barhaus ac yn ymestyn i'r gorwel i gyfarfod yr awyr enfawr, dechreuais gael hyd i'r nerth i ddechrau eto.

Ac roedd hi'n union fel petawn i, ar 么l bron i hanner can mlynedd o baentio, yn dechrau eto oherwydd gwyddwn mai'r hyn i'w feio fwyaf oedd fy nhechneg.

Mae rhai o'r farn fod techneg yn amherthnasol, ond i mi, os nad oes gennych fodd i fynegi'r hyn y mae arnoch eisiau ei ddweud, ni allech ddechrau cyfathrebu - a dyna wedi'r cwbl yw hanfod gwaith paentiwr, sy'n defnyddio paentio fel modd o ateb y cwestiynau yr ydym i gyd yn eu gofyn i ni ein hunain am ein bodolaeth.

Techneg hefyd yw eich arddull; y ffordd yr ydych chi'n paentio a'ch gwneud chi'n wahanol i baentwyr eraill.

Arddull oedd yr hyn a oedd ar goll gennyf, er y gwyddwn y gall gorbwyslais ar arddull fod yn gaethiwus ac yn rhywbeth nad yw'n arwain i unlle.

Felly, wrth imi fyfyrio ynghylch y broblem hon gan edrych allan o ffenestr fy stiwdio ar draws y cerynt wrth iddynt droelli a gwrthdaro ar bob newid yn y llawn, gallwn weld mai'r gwirionedd sylfaenol a oedd yn peri gwyrth bodolaeth ein planed yw cydbwysedd.

Mae cydbwysedd wrth wraidd pam yr ydym yma.

Sut mae cymhwyso'r cydbwysedd hwn ar gyfer paentio? Mae tri phrif elfen - Lliw, Cyfansoddiad, Pwnc - heb un elfen yn bwysicach na'r ddwy arall.

Mewn Lliw mae gofyn imi gael hyd i harmoniau newydd i fynegi'r pwnc. Stori liw wahanol ar gyfer pob paentiad.

Mewn Cyfansoddiad, mae gofyn imi fynegi'r tyniant yn rhythmau'r motiff.

Mewn Pwnc, mae angen cael hyd i drefn y pwyslais - yn debyg i gyfansoddi cerddoriaeth, sef thema gyntaf, ail thema, neu fel arall fe fyddai amherseinedd s诺n.

Felly mewn paentio rhaid i'r gwyliwr beidio a chael ei foddi gan ormod o wybodaeth. Mae gwybod beth i'w gynnwys mor bwysig a gwybod beth i'w hepgor.

Dyma'r cyfeiriad a'r gyriad y mae byw ar yr Ynys Arw wedi ei roi imi ac rwyf bob dydd yn ddiolchgar amdano er y gwn i fod ffordd bell i fynd cyn y gallaf ddweud o ddifrif am baentiad.

'Oes, mae cydbwysedd gan hwn'. Dyna pam nad oes unrhyw ymddeoliad i artistiaid, na dim gwyliau na phenwythnosau rhydd. Mae'n ffordd o fyw, ac mae pob diwrnod yn gyfle arall ac yn cyflwyno posibiliadau a chyfleodd newydd.

Lluniau Philippa Jacobs

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy