´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Rhwyd
Pentref Caergeiliog (llun Gordon Owen, Caergeiliog) Caergeiliog a'r fro 1879
Gorffennaf 2009
Erbyn chwarter olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg yr oedd cylchwyliau'r gwahanol enwadau crefyddol yn mynd o nerth i nerth.

Cylchwyliau fel un Ysgol Sul y Methodistiaid yng Nghaergeiliog a gynhaliwyd ddydd Llun y Pasg dan lywyddiaeth Mr Owen Lloyd, Treflesg.

Aelod o deulu 'Llwydiaid', Llanfair-yn-Neubwll oedd ef, un o deuluoedd mwyaf diwylliedig a blaenllaw y plwyf.

Beirniaid y cyfarfod oedd William Thomas, o Dyr Gwehydd, Caergeiliog; Mr Griffith Owen, Bodowyr; Mr Griffith Hughes (yr ieuengaf), Y Siop a Cherrig-baban wedyn (bu farw Griffith Hughes yr hynaf y flwyddyn hon); William Morris, Fferm Ty Mawr a Mr W. Parry, Postfeistr, Y Fali.

Ymhlith y cystadleuwyr a wobrwywyd yr oedd Mr O. Edwards, Sybylltir; Mr E. R. Owen, Ty'n Llan; Mrs E. G. Ffoulks, Cerrig-baban; Mr H. Owen, Thomas a William Owen, . Fferm Penmynydd; Mr W. Roberts, Tafarn-y-cwch; Mr W. Henry Owen, Y Siop a'i chwaer Lizzie Owen, hithau'n gantores swynol, meddir, hefyd E. Jones, Cae'r Pwll ac eraill.

Yn absenoldeb Mr Robert Pierce (1795-1881), Cruglas, sef taid i'r henadur R. O. Pierce U.H.,daeth J.L. Pierce yno i gyflwyno gwobrau. Cafwyd anerchiad i gloi gan y Parchedig W. Jones, Ty'n-y-maen.

Bu'r fro hon yn ffodus o gael teulu ymroddgar o wahanol enwadau crefyddol o dri phlwyf gwahanol i gynnal cyfarfodydd llenyddol a chystadleuol, sef pobl o blwyfi Bodedern, Llanfihangel-yn-Nhywyn, a Llanfair-yn-Neubwll, yn eu plith teuluoedd Ysgubor Bach, Llain Wen, Hen Blas, TÅ· Llychyn (G. Hughes), Ty'n Llan, Ty'n Rhos, Penrhyn (W. Owen), TÅ· Capel, Y Siop Gwaelod Bach (R. Jones), Cae Barcdy (H Jones), Cefn Llesg (W. Parry), TÅ· Gwrtheyrn ( H. Owen), TÅ·'n y Merddyn (Thomas Williams), Sybylltir, Henblas, Glan Llyn, Treflesg a theuloedd nobl eraill.

Codwyd o leiaf bum meddyg yng Nghaergeiliog a'r fro sef Dr William Jones, TÅ·'n y Merddyn a drigai am gyfnod yn Rhod-y-gaer, Caergybi, hefyd Dr Hughes o Dinam Bach a ymsefydlodd yn Amlwch.

Penodwyd y naill yn fedd: gwaith copr ar Fynydd Parys, a chwarelau Dinorwig, Arfon yn ddiweddarach.

A dyna Dr Owen Hughes, nai i'r Dr Jones, Ty'n y Merddyn a fu farw 21 Mawrth 1859 yn 39 oed, a'i frawd Dr Evan Hughes a fu farw 18 Awst 1868' yn 36 oed, dau arall o Ddinam Bach.

Hefyd Dr John Hughes Lloyd, Treflesg a fu'n feddyg ym Modedern i ddechrau a wedyn yn Llangefni hyd ei farw 14 Chwefror 1878 64 oed.

Meddyg oedd ail fab Henry Owen, Y Siop, Caergeiliog, sef Dr John Henry Owen a aeth i gynorthwyo Dr Thomas Hughes yn Llanberis. Bu ef farw ar 27 Awst 1896 yn 36 oed.

Ac yng Nglan Llyn, Llanfihangel y ganed John Jones (o Dreflvn, Gwalchmai yn ddiweddarach), meddyg Gwarcheidwaid Y Fali am flynyddoedd. Bu farw 13 Tachwedd 1928 yn 68 oed.

Yn ail hanner y ganrif dan sylw mae'n debyg for y rhamant am arwres ardal y llynnoedd yn draddodiad llafar byw yn y cylch, o Gaergeiliog hyd at blwyf Maelog a'r cyffiniau.

Ymddiddori yn y traddodiad hwnnw a roddodd ddeunydd i W. D. Owen lunio ei nofel boblogaidd Madam Wen a gyhoeddwyd yn 1925.

Dr Meirion Llewelyn Williams


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý