大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Rhwyd
Eglwys Dewi Sant, Cregina Gwyngalchu
Hydref 2003
Mae'n ddigon gwir, 'Mwyaf y bydd dyn fyw, mwya' w锚l, mwya glyw'. Fel y Parchedig Emlyn Richards a ysgrifennodd yn y rhifyn Awst am Eglwys Llanfechell, synnais innau wrth weld twr yr Eglwys honno yn cael ei wyngalchu ...
Mwy o syndod byth wrth basio Eglwys Eilian a gweld fod ei thwr hithau wedi derbyn yr un driniaeth. Ond yn ystod yr haf, a minnau ymhell o F么n, ciliodd fy rhagfarn yn erbyn gwyngalchu.

Flynyddoedd yn 么l cefais y fraint o ddarllen hen lyfr Festri Caergybi. Erbyn hyn mae yn cael ei gadw'n ddiogel yng nghrombil Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth. Os gwn i faint sy'n ymwybodol o'i fodolaeth? Hen dro na ch芒i gartref yn Llangefni, mewn man y gallai plant a phobl M么n ei ddarllen yn rhwydd.

Llyfr a brynodd William Owen, Yswain Penrhos, yn 1725 ydyw ac yn cynnwys 86 o dudalennau memrwn. Rhodd mewn gwirionedd i Wardeniaid Caergybi i'w ddefnyddio fel llyfr cownt. Y dyddiau hynny oedd y Wardeniaid nid yn swyddogion eglwysig yn unig, ond yn swyddogion sifil hefyd. Mae eu ffyn swyddogol i'w gweld o hyd yn Eglwys Cybi. Ar ben un mae meitr, cap yr esgob, sy'n cynrychioli eu hawdurdod ysbrydol, ac ar ben y llall coron, sy'n cynrychioli eu hawdurdod seciwlar.

Dengys fod Eglwys Cybi yn cael ei gwyngalchu bob gwanwyn, ac yn 1740 talwyd gini i un o'r enw Slater am wneud y gwaith. Talwyd dau swllt i helper i gario dwr i gymysgu'r calch. Nid gwaith gl芒n yw gwyngalchu a thalwyd hanner coron i cleaner am olchi ar 么l y ddau. Roedd gini yn dipyn o arian yn nechrau'r ddeunawfed ganrif a rhaid bod y muriau allanol yn cael eu gwyngalchu hefyd. Yn 1746 cynhyrfodd y ddau Warden gan i Esgob Bangor anfon llythyr iddynt i'w hysbysu ei fod am ymweld yn swyddogol 芒'r dref yn yr hydref. Felly yn y llyfr cownt mae cofnod i Eglwys Cybi gael ei gwyngalchu ddwywaith y flwyddyn honno. Eglurwyd mai just a little oedd angen ei wneud yn yr hydref. Bach neu fawr mae gwyngalchu yn stompio a chafodd Jane Lyons chwe cheiniog am lanhau'r sblasio.

Ar 么l imi fod yn Sioe Llanelwedd euthum o gwmpas 'Gwlad Kilvert' yn hen Sir Faesyfed. Fel Sgweier y Brynddu gadawodd y Parchedig Kilvert hefyd ddyddiaduron ar ei 么l. Yn 1865 cyrhaeddodd bentref Clyro, sydd dros yr afon i'r Gelli (Hay on Wye) lle mae'r miloedd llyfrau i'w cael a lle erbyn hyn y cynhelir yr Wyl Lenyddol flynyddol. Yno y bu yn hapus iawn am saith mlynedd. Er fy mawr syndod yn y wlad o gwmpas gwelais eglwys ar 么l eglwys wedi ei gwyngalchu a hynny ers canrifoedd. Enghraifft wych yw Eglwys Dewi Sant, Cregina a chefais ei llun.

Rwyf wedi holi a chael ar ddeall y byddai Cestyll Cymru hefyd yn cael eu gwyngalchu hefyd. Mae calch yn sugno gwlybaniaeth ac yna wedi iddi orffen bwrw yn gadael i'r gwynt ei sychu gan nad yw cyn galeted 芒 mortar. Fel hyn mae'r muriau'n gallu anadlu. (Pwy sy'n fodlon gwirfoddoli i wyngalchu Eglwys Llanfigael y gwanwyn nesaf a'i chael i edrych fel y gwnai yn nyddiau William Morris?)

Edgar Jones


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy